Yn dilyn brwydr hir gydag afiechyd, bu farw cyn ganolwr ac asgellwr Cymru Ian Hall yn 78 oed.
Mae Hall hyd heddiw’n cael ei gofio fel ‘Unfed dyn ar bymtheg’ ei wlad yn ystod Camp Lawn Cymru ym 1971.
Fe enillodd cyn-ganolwr ac asgellwr Pontypridd, Aberafan, Abertawe a Heddlu De Cymru 8 cap dros ei wlad ac yn gynharach yn ystod ei yrfa – fe oedd capten Tîm Ieuenctid Cymru.
Fe enillodd ei gap cyntaf yn 21 oed a hynny’n erbyn Seland Newydd ym 1967 a hawliodd ei dri chap nesaf ym 1970.
Pan anafwyd Arthur Lewis y flwyddyn ganlynol – galwyd Hall i bartneru John Dawes yn y gêm fythgofiadwy honno’n erbyn Yr Alban ym Murrayfield.
‘Roedd y tîm cartref ar y blaen o 18-14 gyda dim ond 3 munud ar ôl – ond wedi i Delme Thomas gipio lein Yr Alban – llwyddodd Hall i greu digon o wagle yng nghanol y cae – i Gerald Davies groesi’n y gornel. Wedi trosiad chwedlonol John Taylor – ‘roedd Cymru wedi cipio’r fuddugoliaeth ac ‘roedd eu gobeithion am Gamp Lawn gyntaf ers 1952 yn dal yn fyw. Mae’r gweddill yn hanes fel y dywed yr hen air.
Fel y soniwyd eisoes – fe enillodd ei gap cyntaf yn erbyn y Crysau Duon ym 1967 ac fe gafodd Hall ei gyfle gan nad oedd Gerald Davies ar gael o ganlyniad i anaf. Fe enillodd 3 chwaraewr Aberafan eu capiau cyntaf y diwrnod hwnnw – Paul Wheeler a Max Wiltshire oedd y ddau arall. Gan bod Billy Mainwaring yn y tîm hefyd – ‘roedd 4 o Ddewiniaid yn gwisgo crys coch Cymru gyda’i gilydd y prynhawn hwnnw.
Seland Newydd enillodd y gêm honno o 13-9 ond ‘roedd cael ei ddewis i chwarae’n yr ornest honno’n fythgofiadwy i Ian Hall, fel y dywedodd wrth y Daily Mirror ar y pryd: “Dyma’r anrheg pen-blwydd gorau erioed er fy mod yn gwybod mai dyma fydd y dechrau anoddaf posib i fy ngyrfa rhyngwladol. Bydd cael cefnogaeth a chanu’r dorf yn siwr o roi hyder i ni.”
Enillodd ei ail gap yn y glaw trwm – a hynny ar yr asgell – yn erbyn De Affrica ym 1970 – a daeth ei fuddugoliaethau cyntaf dros ei wlad yn erbyn Yr Alban a Lloegr – olygodd bod Cymru’n rhannu’r Bencampwriaeth gyda Ffrainc y tymor hwnnw.
Cafodd ei ddewis yn gapten ar Aberafan ar gyfer tymor 1971-72 ac fe gyrhaeddon nhw 4 olaf Gwpan Her Cymru ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth. Bu’n chwarae hefyd pan gollon nhw’n y Rownd Derfynol ym 1974 – gyda Llanelli’n eu curo unwaith yn rhagor.
Yn blismon wrth ei waith bob dydd – chwaraeoedd yn achlysurol dros Heddlu De Cymru – gan gynnwys eu gêm gyntaf erioed ar Faes Tredŵr (Waterton Cross) – pan gurwyd Caerdydd o 21-12.
Erbyn diwedd tymor 1974, ‘roedd wedi ennill 3 chap arall – yn erbyn Yr Alban, Iwerddon a Ffrainc.
Yn ogystal – fe gynrychiolodd XV Cymru yn erbyn Seland Newydd mewn gêm ddi-gap. Yn ystod yr ornest honno fe ddioddefodd anaf difrifol iawn i’w goes – ac ni wisgodd grys coch Cymru wedi hynny – er iddo gynrychioli Aberafan a Heddlu De Cymru unwaith eto wedi cyfnod o dros 10 mis heb chwarae.
Trödd ei olygon at hyfforddi wedi iddo ymddeol o chwarae – gan ddechrau ym 1979 wrth arwain Tîm Ieuenctid Cymru am gyfnod o dair blynedd.
Bu wrth y llyw gyda chlwb Abertawe rhwng 1982-83 ac fe lwyddon nhw i guro tîm teithio’r Maori, ennill Pencampwriaeth answyddogol y Western Mail, Tabl Whitbread, Cynghrair Eingl-Gymreig y Daily Mail a Chystadleuaeth 7 Bob Ochr adnabyddus Snelling yn ystod y cyfnod hwnnw. O’r herwydd – dewisiwyd Abertawe’n ‘Dîm y Flwyddyn’ gan y Daily Telegraph.
Wedi ei ail gyfnod fel îs-hyfforddwr gyda Heddlu De Cymru, cafodd y cyfle yn nhymor 1986-87 i ddod yn Brif Hyfforddwr yno a flwyddyn.
Hoffai Undeb Rygbi Cymru gydymdeimlo gyda theulu a chyfeillion Ian Hall.
Ian Hall: Cap Rhif: 715 (8 cap). Geni: 4 Tachwedd 1946 yn Gilfach Goch. Marw: 11 Mehefin 2025