Colli’n ddewr o 33-21 yn erbyn Leinster fu hanes y Scarlets yn Rownd Wyth Olaf y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn Nulyn.
‘Roedd carfan Dwayne Peel eisoes wedi curo bechgyn Leo Cullen yn gynharach yn y tymor – ond gêm gicio gywir y Gwyddelod oedd y prif wahaniaeth rhwng y ddau dîm yn y pendraw.
Wedi i gais hwyr yn yr hanner cyntaf gan Blair Murray gau’r bwlch i bwynt yn unig wrth droi – ‘roedd y gwynt yn hwyliau’r Cymry – ond cicio tactegol Sam Prendergast yn benodol arweiniodd Leinster at y fuddugoliaeth yn yr ail gyfnod.
Fe ddechreuodd y clwb cartref yr ornest ar garlam gan sgorio 12 pwynt yn ystod y 10 munud cyntaf. James Lowe a Jamison Gibson-Park – sef dau o’r wyth o Leinster sydd wedi eu dewis i deithio gyda’r Llewod – diriodd y ddau gais agoriadol.
Taro’n ôl wnaeth bois y sosban wrth i Tom Rogers sgorio cais agoriadol y Scarlets ar eu hymweliad cyntaf â dwy ar hugain eu gwrthwynebwyr ac fe drosodd Sam Costelow’r cais hwnnw.
Gwella ymhellach wnaeth pethau i’r Cymry wrth i’r cyfnod cyntaf ddirwyn i ben. Wedi i Sam Prendergast ollwng y bêl yn nwy ar hugain y Scarlets – fe giciodd Ellis Mee’r bêl rydd ymlaen cyn i Blair Murray hefyd arddangos ei sgiliau pêl-droed. Llwyddodd Murray i gasglu’r bêl rydd a thirio cais – ddechreuodd yng nghysgod ei byst ei hun – i’w gwneud hi’n 15-14 wrth droi.
Wedi chwe munud o’r ail hanner fe fanteisiodd Jamie Osbourne ar gic ddeallus Prendergast – i dirio trydydd cais Leinster o’r prynhawn – ac fe drosodd y maswr y cais hwnnw i agor y bwlch i wyth pwynt.
Dangoswyd cerdyn melyn i’r prop Alec Hepburn am drosedd yn ardal y dacl ac yn fuan wedi hynny fe darodd Dan Sheehan gic Archie Hughes i lawr ac fe fanteisiodd Seren y Gêm, Hugo Keenan i’r eithaf ar hynny.
Er na lwyddodd Sam Prendergast i drosi’r cais – fe ychwanegodd ddwy gic gosb cyn y chwiban olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth i’w dîm.
Rhwng y ddwy gic – fe lwyddodd Johnnie Williams i gwblhau gwaith creu campus Vae’a Fifita a Marnus van der Merwe – i dirio trydydd cais y Scarlets o’r prynhawn yn Stadiwm Aviva.
Yn anffodus o safbwynt yr ymwelwyr – pylu wnaeth eu gobeithion am fuddugoliaeth pan ddangoswyd cerdyn melyn i Fifita am dacl uchel – a Leinster sy’n camu ymlaen i bedwar olaf y gystadleuaeth eleni.
Bydd hi’n rhywfaint o gysur i Dwayne Peel a’i garfan bod y ffaith iddyn nhw gyrraedd yr wyth olaf – wedi sicrhau eu lle yng Nghwpan Pencampwyr Investec y tymor nesaf.