Yn dilyn cyd-drafod ac adolygu sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf – mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cadarnhau y bydd y bandiau oedran ar gyfer rygbi ieuenctid (Dan 17 – Dan 18) yn parhau wedi’r cyfnod ymgynghorol.
Fe gyflwynodd 195 o glybiau ledled Cymru at y broses ymgynghori, ynghŷd â rhanddeiliaid allweddol y gêm – gan gynnwys chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr, rheolwyr tîm a gwirfoddolwyr. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad yn unol ag ‘arferion a safonau gorau’ prif undebau rygbi’r Byd.
Mae canfyddiadau allweddol yr adolygiad yn dangos bod y symudiad i’r bandio oedran dwy flynedd (D17 i D18) o’r bandio oedran 3 blynedd blaenorol (D17 i D19) wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar gadw chwaraewyr o fewn y gêm – gan hefyd greu ffigurau pontio cryfach i’r rhai sy’n symud i gêm yr oedolion.
- 91% o chwaraewyr D17 & Dan 18 oed yn dweud eu bod yn cael profiad cadarnhaol wrth chwarae Rygbi Ieuenctid Dan 18.
- Bandio oedran Dan 18 oed wedi cynyddu nifer y chwaraewyr Dan 16 sy’n camu ymlaen i Rygbi Ieuenctid – gan bod mwy o gyfleoedd iddyn nhw chwarae
- Mae data cofrestru’n dangos bod 23% yn fwy o blant Dan 16 oed, 22% yn fwy o blant Dan 17 oed a 30% yn fwy o ddisgyblion Dan 18 oed yn chwarae’r tymor hwn o’i gymharu â 2019 (bandio oedran cyn-D18)
Dywedodd Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru, “Rwy’n falch iawn bod Bwrdd yr Undeb wedi ymrwymo i gadw Dan 18 oed fel y band oedran swyddogol ar gyfer rygbi ieuenctid y bechgyn yma yng Nghymru.
“Rydym wedi ein plesio’n fawr gan yr effaith gadarnhaol y mae’r arbrawf wedi’i gael ar draws ein gêm gymunedol. Mae’n dangos bod y strwythur hwn yn creu’r amodau cywir i bobl ifanc ffynnu o fewn ein gêm.
“Mae’r system yma wedi dylanwadu’n arbennig o bositif ar hunanhyder unigolion – gan ei bod yn cynnig profiad pontio llyfnach trwy’r gwahanol oedrannau ac yn cadw pobl ifanc yn chwarae am gyfnodau hirach.”
Pam cadw’r bandio oedran Dan 17 – Dan 18?
1. Datblygu Chwaraewyr Cryfach a’u Cadw o fewn y gêm:
Ers cyflwyno bandio ieuenctid Dan 18 yn nhymor 2020/21, mae Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y chwaraewyr o Dan 18 oed. Mae cofrestriadau chwaraewyr wedi tyfu 23% o Dan 16, 22% o Dan 17, a 31% ar lefel o Dan 18 o’i gymharu â 2019 (tymor olaf bandio oedran tair blynedd o Dan 19). Mae’r penderfyniad hwn wedi cynnig profiadau cyson, cystadleuol ac ystyrlon i chwaraewyr a llwybr llyfnach iddynt at rygbi oedolion.
2. Gwell Cynaliadwyedd i’r Clybiau:
Mae mwy na 70% o chwaraewyr o Dan 18 bellach yn symud ymlaen i chwarae rygbi oedolion, gyda llawer yn ymddangos ar Daflenni Digidol Timau 1af Undeb Rygbi Cymru. Mae clybiau ledled y wlad wedi gallu cryfhau eu timau cyntaf gan hefyd gynnig darpariaeth ail dimau a thimau Athletig. Cafodd 13 o’r timau hyn eu hychwanegu at y Cynghreiriau Cenedlaethol 2024/25 a gwelwyd cynnydd pellach yn nifer y timau Athletig fydd yn cymryd rhan yn y Cynghreiriau Cenedlaethol 2025/26.
3. Diogelwch a Lles:
Mae’r bandio oedran o Dan 18 oed yn cyd-fynd â safonau rhyngwladol amddiffyn plant ac hefyd ymchwil atal anafiadau. Mae hyn yn sicrhau bod chwaraewyr ifanc yn datblygu mewn amgylchedd sy’n briodol iddynt yn gorfforol ac yn feddyliol cyn symud ymlaen i gystadlu ar lefel oedolion
4. Cyd-fynd â Strategaeth ‘Cymru’n Un’ Undeb Rygbi Cymru:
Mae’r bandio oedran hwn yn cefnogi nodau hirdymor y strategaeth o ymgysylltu â chwaraewyr, gwneud clybiau’n fwy sicr yn ariannol a chreu cymuned rygbi gynaliadwy a ffyniannus. Mae’n cynnig llwybr datblygu addas i chwaraewyr – gan hefyd sicrhau bod mwy o chwaraewyr yn aros yn y gêm yn hirach gan hefyd gryfhau rygbi cymunedol a rhyngwladol.
5. Ystyriaethau Allweddol a Chymhariaethau â Gwledydd Eraill:
Mae’r bandio oedran hwn yn cyd-fynd â diffiniad Confensiwn y Cenhedloedd Unedig o safbwynt ‘Hawliau’r Plentyn’ (CCUHP) – sef pawb o Dan 18 oed. Felly hefyd Adran 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy’n dweud bod plentyn yn berson o Dan 18 oed. Mae’n cyd-fynd â bandio oedran Addysg ac yn cyd-fynd â bandio Undebau Rygbi’r Chwe Gwlad ac Undebau Rygbi Seland Newydd, Awstralia a De Affrica.
Ychwanegodd Geraint John:”Mae hefyd yn galonogol bod dros 1,000 o chwaraewyr o Dan 19 oed wedi cofrestru ar gyfer rygbi oedolion ar gyfer y ddau dymor diwethaf – sy’n gynnydd cymharol o 400+ ers 2019. Mae hyn yn arwydd pendant a phositif bod chwaraewyr ifanc yn cadw cysylltiad â’r gêm wedi iddyn nhw droi’n ddeunaw oed.
“Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at adeiladu ar y cynnydd hwn a pharhau i gefnogi datblygiad a mwynhad pawb sy’n rhan o’r gêm, gan sicrhau bod llwybr datblygu clir a chyfleoedd chwarae addas o fewn rygbi oedolion.”
Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer y dyfodol?
• Bydd URC yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd chwarae addas, ystyrlon a chystadleuol i’n chwaraewyr o Dan 18.
• Bydd ein ffocws o safbwynt Datblygiad Hyfforddiant yn canolbwyntio ar gynnig gwell cefnogaeth ac addysg er mwyn sicrhau bod mwy o chwaraewyr yn parhau i aros o fewn y gêm trwy gyfnod rygbi o Dan 16-18 oed – gan wedyn gamu ymlaen at rygbi oedolion.
• Bydd URC yn parhau i fuddsoddi mewn adnoddau, cynnwys, addysg a chefnogaeth i helpu clybiau i gynnal y momentwm cadarnhaol a gyflawnwyd hyd yma ac er mwyn sicrhau llwyddiant hirdymor.