Mae Prif Hyfforddwr Menywod Dan 20 Cymru, Liza Burgess wedi enwi ei charfan o 30 ar gyfer Cyfres Haf y Chwe Gwlad- fydd yn cael ei chynnal yn Ystrad Mynach fis Gorffennaf.
Bydd gemau pob un o’r chwe gwlad (Iwerddon, Ffrainc, Lloegr, Yr Alban, Yr Eidal a Chymru) yn cael eu chwarae ddydd Sadwrn y 5ed, ddydd Gwener yr 11eg ac yna ddydd Iau yr 17eg.
Mae’r gystadleuaeth yn caniatáu i’r gwledydd ddewis hyd at 5 o chwaraewyr o dan 23 oed ar gyfer pob un o’r gemau.
Mae Liza Burgess wedi dewis Branwen Metcalfe yn gapten ar y garfan am y tro cyntaf – ac mae’r Prif Hyfforddwr yn edrych ymlaen yn fawr at y gystadleuaeth: “Mae’r ffaith bod y gemau i gyd yn cael eu cynnal yma yng Nghymru’n arbennig o gyffrous.
“Ry’n ni wedi paratoi’n dda iawn ar gyfer yr her sydd o’n blaenau. Dros y ddau benwythnos diwethaf, ‘ry’n ni wedi elwa’n fawr o ymarfer yn erbyn Yr Alban a Lloegr. Fe fyddwn ni’n wynebu’r Alban yn ein hail gêm yn Ystrad Mynach ac Iwerddon a’r Eidal fydd ein gwrthwynebwyr eraill ni.
“Ry’n ni bellach yn y bedwaredd flwyddyn o’r cynllun llwybr datblygu ar gyfer ein chwaraewyr – ac ‘ry’n ni erbyn hyn wedi creu dyfnder gwirioneddol yn y garfan. Mae’r merched wedi bod yn ymarfer yn dda ac felly ‘ry’n ni’n hyderus wrth edrych ymlaen at ein tair gêm ar dir cartref.
“Rwyf wedi dewis Branwen yn gapten gan ei bod yn arddangos sgiliau arweinyddol campus ar y cae ac oddi-arno hefyd. Mae hi’n chwaraewr corfforol a medrus sy’n hawlio parch ei chyd-chwaraewyr a’r staff.
“Mae’n wych i ni bod y gemau i gyd yn cael eu cynnal yn Ystrad Mynach. Mae’r holl garfan yn gyffrous wrth edrych ymlaen at chwarae ar ein tomen ein hunain ac ‘ry’n ni gyd yn gobeithio y gwnaiff y cyhoedd ddod i’n cefnogi ni trwy gydol y gystadleuaeth.”

Olwyr (15)
Sian Jones (Gwalia Lightning / Hartpury Caerloyw)
Seren Singleton (Brython Thunder / Met Caerdydd / CDP y Gorllewin)
Katie Bevans (Gwalia Lightning / Met Caerdydd / CDP y Dwyrain)
Carys Hughes (Gwalia Lightning / Prifysgol Hartpury / CDP y Dwyrain)
Ffion Williams (Coleg Hartpury / CDP y Gogledd)
Hanna Marshall (Brython Thunder / Prifysgol Hartpury / CDP y Gorllewin)
Hanna Tudor (Ysgol Brynhyfryd / CDP y Gogledd)
Freya Bell (Gwalia Lightning / Met Caerdydd / CDP y Dwyrain)
Isla McMullen (Coleg Gwent / CDP y Dwyrain)
Savannah Picton-Powell (Brython Thunder / Met Caerdydd / CDP y Dwyrain)
Hannah Lane (Brython Thunder / Met Caerdydd / CDP y Gogledd)
Ffion Davies (Brython Thunder / Prifysgol Caerdydd / CDP y Gorllewin)
Mollie Wilkinson (Brython Thunder / Bryste)
Nia Fajeyisan (Gwalia Lightning / Prifysgol Caerlŷr / CDP y Dwyrain)
Gabby Healan (Brython Thunder / Met Caerdydd / CDP y Dwyrain)
Blaenwyr (15)
Stella Orrin (Brython Thunder / Prifysgol Bryste / CDP y Gorllewin)
Dali Hopkins (Gwalia Lightning / Cheltenham)
Megan Lewis (Brython Thunder / Prifysgol Hartpury)
Elan Jones (Brython Thunder / Met Caerdydd / CDP y Gogledd)
Evie Hill (Coleg Gwent / CDP y Dwyrain)
Rosie Carr (Brython Thunder / Bryste)
Molly Wakely (Gwalia Lightning / CDP y Dwyrain)
Robyn Davies (Brython Thunder / Met Caerdydd / CDP y Gorllewin)
Branwen Metcalfe – Capten (Coleg Hartpury / CDP y Gogledd)
Chiara Pearce (Coleg Gwent / CDP y Dwyrain)
Catrin Stewart (Gwalia Lightning / Met Caerdydd / CDP y Gogledd)
Lily Terry (Gwalia Lightning / Prifysgol Hartpury)
Lottie Buffery-Latham (Gwalia Lightning / Prifysgol Loughborough)
Jorja Aiono (Coleg Hartpury / CDP y Gorllewin)
Gwennan Hopkins (Gwalia Lightning / Hartpury Caerloyw).
Cyfres Haf y Chwe Gwlad – Ystrad Mynach
5/7/25 – Cymru v Iwerddon – 3.30pm
11/7/2025 – Cymru v Yr Alban – 6.00pm
17/7/25 – Cymru v Yr Eidal – 3.30pm
Bydd holl gemau’r gystadleuaeth yn cael eu ffrydio ar sianel You Tube Undeb Rygbi Cymru
https://www.youtube.com/@WRUOfficial/streams
Bydd mynediad i bob un o gemau Cyfres y Chwe Gwlad yn Ystrad Mynach am ddim.