News

Cyhoeddi cytundeb darlledu ar gyfer y Daith Haf i Japan gyda'r BBC ac S4C

Bydd y Profion yn Japan i'w gweld am ddim yma yng Nghymru.

Mae BBC Cymru a S4C wedi cyhoeddi cytundeb ddarlledu newydd gydag Undeb Rygbi Cymru i ddangos dwy gêm Brawf tîm y dynion yn erbyn Japan yn fyw ac ar deledu am ddim ym mis Gorffennaf eleni.

Bydd y gêm gyntaf yn cael ei gynnal yn y Mikuni World Stadium yn Kitakyushu ar ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf (y gic gyntaf am 6am), ac yn cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC One Wales ac ar BBC iPlayer, gyda’r rhaglen yn dechrau am 5:45am.

Cynhelir yr Ail Brawf yn Stadiwm Noevir yn Kobe ar ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf (y gic gyntaf am 6:50am), ac yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer o 6:30am ymlaen.

Sarra Elgan fydd yn cyflwyno’r ddwy gêm ar y BBC ac ar S4C. Bydd sylwebaeth ar Scrum V Live gan Gareth Rhys Owen a Richie Rees, gyda’r gwesteion yn cynnwys Alun Wyn Jones a Rhys Patchell.

Ar S4C, bydd Ken Owens a Rhys Patchell yn ymuno â Sarra Elgan ar gyfer Clwb Rygbi, gyda sylwebaeth gan Cennydd Davies a Gwyn Jones. Bydd Gareth Rhys Owen a Richie Rees hefyd ar gael drwy’r Botwm Coch.

Dywedodd Sarra Elgan: “Mae’n fraint i gael cyflwyno gemau Cymru yng Nghyfres yr Haf yn Japan ar y BBC ac ar S4C.

“Mae’r gemau hyn yn gyfle gwych i adeiladu momentwm cyn tymor allweddol. Efallai nad yw Cymru wedi cael y canlyniadau maen nhw moyn yn ddiweddar, ond mae digon o reswm i fod yn obeithiol – gyda phrofiad gwerthfawr yn cael ei ennill a chyfle i dyfu fel tîm.

“Mae’r daith hon yn gyfle i’r garfan gamu ymlaen, gwneud eu marc, ac i’r ffans  fod yn gyffrous am beth sydd i ddod. Rwy’n edrych ymlaen at ddod â’r holl gyffro, trafod ac awyrgylch i gefnogwyr adref – os ydyn nhw’n gwylio’n Gymraeg neu’n Saesneg.”

Bydd sylwebaeth sain fyw hefyd yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, a gall cefnogwyr ddilyn y diweddaraf ar wefan BBC Sport.

Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: “Mae’n newyddion gwych ein bod yn gallu cadarnhau BBC Cymru Wales ac S4C fel ein partneriaid darlledu ar gyfer y daith hon i Japan.

“Mae’r bartneriaeth yma’n golygu y gall ein cefnogwyr wylio pob eiliad o’r ddwy gêm brawf – boed hynny’n Gymraeg neu’n Saesneg. Mae’n bwysig i ni fel Undeb ein bod yn parhau i hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant ein gwlad trwy gyfrwng y darllediadau – fydd yn dangos yr angerdd sydd greiddiol i rygbi Cymru i gynulleidfaoedd ym mhedwar ban byd.”

 

 

 

Related Topics