Fe enillodd Sean Lynn wobr Cyfarwyddwr Rygbi’r tymor yn noson wobrwyo Uwch Gynghrair Menywod Lloegr yn Llundain neithiwr.
‘Roedd Lynn yn un o bedwar oedd ar y rhestr fer ac fe ddaeth i’r brig gan iddo arwain Hartpury/Caerloyw at eu trydedd Pencampwriaeth o’r bron.
Cafodd Sean Lynn ei benodi’n Brif Hyfforddwr ar dîm Cymru ym mis Ionawr eleni a’r wythnos hon mae wedi enwi carfan estynedig o 45 o chwaraewyr – wrth iddo baratoi ar gyfer y ddwy gêm brawf yn Awstralia dros yr haf a Chwpan y Byd yn Lloegr – fydd yn dechrau ym mis Awst.
Dywedodd Sean Lynn: “Roedd cael fy enwebu’n fraint – ond ‘roedd ennill y wobr yn eiliad arbennig iawn i mi ac fy nheulu – heb anghofio’r holl chwaraewyr, hyfforddwyr a staff hefyd.
“Oni bai ein bod ni gyd wedi rhannu’r un weledigaeth ac wedi gweithio’n galed iawn – fydden ni ddim wedi cyflawni unrhywbeth o werth. ‘Ni’ sydd wedi ennill y Bencampwriaeth am y tair blynedd ddiwethaf gyda’n gilydd.
“Fe gymrodd hi dipyn o amser i ni osod y seiliau oedd eu hangen er mwyn llwyddo yn eu lle – ac mae gweld y weledigaeth honno’n cael ei gwireddu’n rhoi balchder mawr i mi.
“Roeddwn i wastad eisiau hyfforddi Cymru – ac fel y gwnaethon ni yn Hartpury/Caerloyw – ‘ry’n ni’n adeiladu diwylliant o undod a chefnogaeth gan herio’n gilydd i wella’n ddyddiol.
“Mae cryn dipyn o waith gennym i’w wneud – ond mae un peth yn sicr – mae’r talent gennym ni yma yng Nghymru. Mae’r timau iau a’r perfformiadau yn yr Her Geltaidd yn profi hynny – a’n bwriad clir yw datblygu tîm rhyngwladol y gall pawb fod yn falch ohono.”
Ychwanegodd Belinda Moore, Pennaeth Rygbi Menywod Undeb Rygbi Cymru: “Rwyf wedi adnbod Sean ers cryn dipyn o amser bellach ac felly ‘dyw hi’n ddim syndod o gwbl i mi ei fod wedi ennill y wobr arbennig hon.
“Mae cydweithio gydag ef yn bleser ac ‘ry’n ni wedi gweld arwyddion clir yn barod o’i ddylanwad a’i allu wrth ddatblygu a chryfhau’r ‘teulu’. Mae’r dyfodol yn edrych yn addawol a chyffrous i rygbi menywod yma yng Nghymru.”
Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: “Hoffwn longyfarch Sean yn dwymgalon am ennill y wobr ac hefyd am ei holl lwyddiannau yn ystod ei gyfnod dros y bont. Fe lwyddodd i adeiladu a siapio tîm sydd wedi rheoli’r Uwch Gynghrair dros y blynyddoedd diwethaf – gan hefyd adeiladu diwylliant cryf o fewn y clwb.”
“Mae’r wobr hon yn tanlinellu pam y gwnaethon ni benodi Sean fel ein Prif Hyfforddwr – ac ‘ry’n ni’n edrych ymlaen at gynnig y gefnogaeth a’r amser sydd eu hangen arno i adeiladu’r un diwylliant o fewn rygbi Cymru.”