Yn ystod ei yrfa mae Josh Adams wedi ennill Camp Lawn, Pencampwriaeth Chwe Gwlad ac wedi gorffen yn bedwerydd yng Nghwpan y Byd hefyd.
Yn ystod y gystadleuaeth yn Japan yn 2019 – Adams oedd y prif sgoriwr ceisiau gyda 9 cais – ac mae’n teithio’n ôl yno’r wythnos hon – gyd nôd ychydig yn wahanol.
Dywedodd asgellwr Caerdydd: “Mae’n anodd iawn clywed rhai o’r bois yn dweud nad y’n nhw erioed wedi ennilll yng nghrys Cymru – yn enwedig gan fy mod i wedi bod yn ddigon lwcus i fod yn rhan o gyment o brofiadau da wrth wisgo’r crys coch.
“Ar un adeg – ‘doedden ni ddim yn meddwl ein bod yn mynd i golli unrhyw gêm. Ambell waith – fydden ni ddim yn chwarae’n arbennig o dda – ond bydden ni’n dal i ennill.
“Mae’r momentwm o ennill neu golli’n gyson yn gylch sy’n galed i’w dorri – ond mae gormod o dalent a chymeriad yn y garfan yma i’n record siomedig ni’n diweddar i gario ‘mlaen.
“Mae’r bois sydd yn y garfan nawr gystal â’r rhai oedd gyda ni pan ddechreues i chwarae dros Gymru. Hyder sydd angen ar y garfan yma – ac fe ddaw’r buddugoliaethau’n fuan.”
Yr wythnos hon mae carfan Cymru wedi bod yn ymarfer mewn siambr wres arbennig yng Nghanolfan Ragoriaeth yr Undeb ym Mro Morgannwg – mewn ymgais i’w paratoi ar gyfer yr amodau llethol fydd yn eu hwynebu yn Kitakyushu a Kobe yn y ddwy Gêm Brawf ar y daith.
“Mae’r ymarfer wedi bod yn galed ac yn wirioneddol anghyfforddus – ond dyna beth sydd yn rhaid i ni ei wneud er mwyn rhoi’r cyfle gorau i ni ennill mas yn Japan.
“Yn ystod Cwpan y Byd yno yn 2019 – ‘roedd hi’n fis Medi – ac yn dipyn mwy ‘cool’ – ond fis nesaf bydd hi’n llawer twymach a bydd y lleithder yn gwneud iddi deimlo hyd at 10 gradd yn dwymach ar ben hynny.
“Yr wythnos hon ‘ry’n ni wedi bod yn dod syth mas o’r siambr i ymarfer ein sgiliau o dan amodau o 37 gradd ac 88% o ran lleithder. Profiad afiach ac arbennig o anodd.
“Does dim llawer o le yn y siambr ac felly mae pawb ar ben ei gilydd. Pan ‘ry’ch chi wedi blino’n lân – ‘ry’ch chi eisiau lle i anadlu – ond ‘dyw hynny ddim yn bosib sy’n gwneud pethau’n anodd iawn i bawb.
“Mae’r tîm hyfforddi wrth law i wneud yn siwr nad oes unrhywun yn mynd i drafferth – ac er gyment ‘ry’n ni’n credu bod y profiad yn uffernol – mae pob aelod o’r garfan yn gwybod y bydd y poen yma’n ein paratoi’n wych i herio Japan o dan arweiniad Eddie Jones mas yn Japan.”