News

Bordeaux-Begles a Northampton fydd yn Ffeinal Cwpan Pencampwyr Ewrop yn Stadiwm Principality

Penwythnos gwych o rygbi yng Nghaerdydd

Yn groes i ddarogan llawer, Bordeaux-Begles a Northampton sydd wedi hawlio eu lle yn Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop Investec yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn y 24ain o Fai – wedi iddyn nhw drechu’r ddau dîm gystadlodd yn y Ffeinal y llynedd, Leinster a Toulouse.

Y noson gynt, Caerfaddon a Lyon fydd yn herio’i gilydd yn Ffeinal Cwpan Her EPCR fydd hefyd yn cael ei chynnal yn y Brifddinas.

Llwyddodd Northampton i ennill y Cwpan yn 2000 ac fe gyrhaeddon nhw’r Rownd Derfynol yng Nghaerdydd yn ôl yn 2011 hefyd. Yn y rownd gyn-derfynol eleni, fe guron nhw Leinster o 37-34 yn Stadiwm Aviva. Tipyn o gamp o ystyried bod y Gwyddelod wedi ennill y gystadleuaeth ar bedwar achlysur.

Asgellwr Lloegr Tommy Freeman oedd chwaraewr mwyaf allweddol Northampton yn Nulyn gan iddo groesi am dri chais.

‘Roedd dau gais ‘Seren y Chwe Gwlad’, Louis Bielle-Biarrey, yn allweddol yn y rownd gyn-derfynol arall wrth i Bordeaux-Begles guro’r deiliaid Toulouse o 35-18 yn Stadiwm Matmut Atlantique er mwyn hawlio lle ei dîm yn Ffeinal Cwpan y Pencampwyr am y tro cyntaf yn eu hanes.

Mae Louis Bielle-Biarrey ar ei ffordd i Gaerdydd.

Fe chwaraeodd y clwb yng ngystadleuaeth gyntaf Cwpan Heineken yn nhymor 1995-96 a’u gwrthwynebwyr ar y penwythnos agoriadol oedd Caerdydd. 14-14 oedd y canlyniad y diwrnod hwnnw yn Ffrainc.

Bydd Bordeaux-Begles yn gobeithio mai nhw fydd y 14eg clwb i godi’r Cwpan ddiwedd y mis a’r 5ed clwb o Ffrainc i wneud hynny.

Dyma fydd yr 8fed tro i Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop gael ei chynnal yng Nghaerdydd  (1996, 1997, 2002, 2006, 2008,2011, 2014) a dyma fydd y 3ydd tro y bydd Ffeinal y Cwpan Her yn digwydd yn y Brifddinas. (2011, 2014).

Os hoffech chi brofi’r wefr o dystio dwy rownd derfynol arbennig yng nghanol Caerdydd – mae modd i chi brynu tocynnau yma:

GET YOUR TICKETS HERE

Related Topics