Hoffai Undeb Rygbi Cymru longyfarch y chwaraewyr rhyngwladol Alisha Joyce-Butchers a Jasmine Joyce-Butchers wedi eu cyhoeddiad eu bod yn disgwyl plentyn.
Daeth y cadarnhad bod Alisha’n feichiog ar eu cyfryngau cymdeithasol a hoffai holl deulu rygbi Cymru estyn eu llongyfarchiadau atynt.
Fe briododd y cwpwl yn Sir Benfro ym mis Rhagfyr 2023 a dyma fydd eu plentyn cyntaf.
Mae’r ddwy wedi eu cytundebu fel chwaraewyr gydag Undeb Rygbi Cymru ac maent yn aelodau poblogaidd ac uchel eu parch o fewn y garfan ryngwladol.
Bydd Alisha Joyce-Butchers yn dychwelyd i’r garfan yn unol â Chynllun Mamolaeth newydd carfan ryngwladol Menywod Cymru.
Ni fydd y chwaraewr rheng ôl ar gael i deithio i Awstralia dros yr haf – nac i gymryd rhan yn ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd yn Lloegr yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Bydd Undeb Rygbi Cymru, fel rhan o’i chynllun mamolaeth a pherfformiad yn cefnogi Alisha Joyce-Butchers yn ystod ei beichiogrwydd ac wedi hynny ar ei chyfnod mamolaeth.
Dywedodd Alisha Joyce- Butchers: “Ry’n ni’n derbyn bod tipyn o holi wedi bod pam nad ydw i wedi bod yn rhan o garfan Cymru’n ddiweddar – ac mae pawb yn gwybod pam bellach!
View this post on Instagram
“Fe gawsom y sgan 12 wythnos heddiw – ac ‘ry’n ni wrth ein boddau ein bod yn gallu cadarnau fy mod yn disgwyl.
“Roedden ni eisiau dweud wrth ein teulu a charfan Cymru cyn i ni gyhoeddi’r newyddion yn swyddogol – sydd gobeithio’n ddealladwy i bawb.
“Mae bod yn dost yn y bore wedi bod yn brofiad newydd i mi – yn enwedig tra bod Jaz wedi bod i ffwrdd yn chwarae rygbi – ond ‘ry’n ni’n dwy wrth ein boddau gyda’n newyddion arbennig.”
Ychwanegodd Jasmine Joyce-Butchers: “Ry’n ni’n dwy wedi gwirioni gyda’n newyddion. Mae hi wedi bod yn anodd iawn cadw’r holl beth yn dawel – ond yn amlwg ‘roedd yn rhaid i wneud hynny.
“Wedi i ni briodi ein bwriad oedd ceisio dechrau teulu. Bydd hon yn bennod newydd i ni fydd yn rhoi cyd-destun i bopeth yn ein bywydau – gan gynnwys rygbi.”
Dywedodd Belinda Moore, Pennaeth Rygbi Menywod Undeb Rygbi Cymru: “Ar ran holl garfan Menywod Cymru, y chwaraewyr, hyfforddwyr a’r staff – hoffwn longyfarch Alisha a Jaz o waelod calon ar eu newyddion.
“Bydd yr Undeb yn cynnig ein cefnogaeth lawn iddynt ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu cefnogwr arall i deulu rygbi Cymru’n fuan.”