Mae trefn gemau’r Cynghrair Rygbi Unedig ar gyfer tymor 2025/26 wedi eu cyhoeddi a hynny’n gynt nac erioed o’r blaen.
Gyda’r gystadleuaeth yn dechrau ar y 26ain o Fedi – mae’r cyhoeddiad yn dod 128 o ddyddiau cyn y gic gyntaf – sy’n gynt na’r record flaenorol o 114 o ddyddiau. Mae’r cyfnod hirach hwn yn cynnig mwy o amser i’r timau a’u cefnogwyr wneud eu trefniadau perthnasol.
Bydd y rownd gyntaf o gemau’n gweld Pencampwyr y tymor hwn – y DHL Stormers yn croesawu Leinster i Cape Town ddydd Gwener y 26ain o Fedi.
O safwbynt Cymreig, bydd y Dreigiau’n teithio i wynebu Ulster ar y nos Wener cyn i’r tri thîm arall o Gymru chwarae ddydd Sadwrn y 27ain o Fedi. Bryd hynny bydd y Scarlets yn herio Munster yn Llanelli, y Gweilch yn teithio i wynebu’r Vodacom Bulls a Chaerdydd yn croesawu’r Emirates Lions i Barc yr Arfau.
Bydd fformat presennol y gystadleuaeth yn parhau – gyda’r wyth tîm uchaf yn camu ‘mlaen i’r gemau ail-gyfle fydd yn dechrau ar y 29ain o Fai. Bydd y rowndiau cyn-derfynol yn dilyn ar y 6ed o Fehefin – cyn y rownd derfynol ei hun ar yr 20fed o’r mis – pan fydd Pencampwyr tymor 2025/26 yn cael eu coroni.
Bydd y trafodaethau i sicrhau darllediadau di-dâl yn parhau i ddigwydd yng Nghymru, gweddill y Deyrnas Unedig a’r gwledydd eraill sy’n cael eu cynrychioli yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Dywedodd Martin Anayi, Prif Weithredwr y Bencampwriaeth Rygbi Unedig: “Mae cynllunio gofalus ac effeithiol yn allweddol i lwyddiant y Bencampwriaeth yn y dyfodol ac ‘ry’n ni’n hapus iawn ein bod wedi gallu cyhoeddi trefn y gemau’n gynt nac erioed eleni.
“Mae’n sylw ni’n troi wrth gwrs at y gemau ail-gyfle’r wythnos nesaf – a bydd y dwyster a’r cyffro’n siwr o godi i lefel arall.”
Mae Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru (PRB) wedi cadarnhau na fydd Dydd y Farn yn digwydd yn nhymor 2025/26.
Wrth i drefn gemau’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig gael eu cyhoeddi – mae’r pedwar clwb proffesiynol Cymreig wedi penderfynu cymryd saib o’r egwyddor o chwarae dwy gêm ar yr un diwrnod yn Stadiwm Principality.
Daeth 28,000 o gefnogwyr i wylio’r Gweilch yn herio Caerdydd a’r Dreigiau’n wynebu’r Scarlets eleni – ond mae’r PRB yn credu y gellir denu mwy o dorf wrth ail-ddiffinio’r digwyddiad yn greadigol yn y dyfodol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Rygbi Proffesiynol:”Mae gan y syniad botensial enfawr – ac er bod y digwyddiadau cynnar yn enwedig wedi llwyddo – mae’n amser ail-feddwl y ffordd ymlaen.
“Y bwriad y tymor nesaf fydd ceisio denu y torfeydd mwyaf posib ar gyfer y gemau darbi unigol – yn ogystal â’r gemau cartref eraill wrth gwrs.”
Rownd 1
Gwener, Medi 26
DHL Stormers v Leinster
18:00
Yn fyw ar: SuperSport, TG4, Premier Sports
Ulster v Dreigiau
20:05
Yn fyw ar: Premier Sports, SuperSport
Glasgow v Hollywoodbets Sharks
20:05
Yn fyw ar: Premier Sports, SuperSport
Sadwrn, Medi 27
Vodacom Bulls v Gweilch
13:00
Yn fyw ar: SuperSport, Premier Sports
Zebre Parma v Caeredin
15:05
Yn fyw ar: Premier Sports, SuperSport
Scarlets v Munster
17:30
Yn fyw ar: Premier Sports, SuperSport
Caerdydd v Emirates Lions
19:45
Yn fyw ar: Premier Sports, SuperSport
Connacht vs Benetton
19:45
Yn fyw ar: TG4, Premier Sports, SuperSport