News

Tocynnau Cyfres yr Hydref – Cynnig arbennig yn eich clwb lleol!

Cyfleoedd gwych i gefnogwyr Cymru

Gall cefnogwyr Cymru ddechrau cynllunio ar gyfer cyfres hudolus o rygbi’r Hydref hwn gan bo’r tocynnau bellach ar gael trwy’r clybiau rygbi hynny sy’n aelodau o Undeb Rygbi Cymru.

Am y tro cyntaf erioed bydd cefnogwyr yn derbyn gostyngiad o £5 ym mhris pob tocyn, ym mhob categori, gaiff ei brynu gan eu clwb rygbi lleol.

Bwriad y cynllun blaengar yma yw gwobrwyo clybiau llawr gwlad a’u cymunedau.

Mae’r cynnig yn berthnasol i holl gemau Cymru yng Nghyfres yr Hydref a bydd gostyngiad pellach o 50% ar gael i fyfyrwyr a phobl ifanc o dan 18 oed. O’r herwydd bydd modd i’r rhai o dan 18 oed brynu tocyn am £10 ac £20 fydd pris y tocyn rhataf i oedolion. Gall teulu o bedwar felly wylio gêm am £60 punt yn unig yn ystod y gyfres.

Mae 33,000 o docynnau Categori C ar gael – sef 48% o seddi Stadiwm Principality.

Bydd Cymru’n chwarae pedair gêm brawf gartref yn ystod mis Tachwedd gan ddechrau gydag ymweliad Ariannin ddydd Sul y 9fed o’r mis. Japan fydd yr ymwelwyr â’r Stadiwm ddydd Sadwrn y 15ed – bedwar mis wedi i Gymru deithio yno fis Gorffennaf.

Seland Newydd fydd gwrthwynebwyr nesaf y Cymry ddydd Sadwrn yr 22ain cyn i Bencampwyr y Byd, De Affrica, ddod â’r gyfres i ben ar y 29ain.

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Mae’n hynod o bwysig bod rygbi rhyngwladol ar gael i gynulleidfa eang. Mae’n clybiau wrth galon ein cymunedau wrth gwrs ac rydym yn falch iawn o allu cynnig gostyngiad i’r cefnogwyr hynny sy’n prynu eu tocynnau gan eu clybiau lleol.

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu ymestyn yr arbrawf llwyddiannus o gynnig tocynnau hanner pris i fyfyrwyr eto eleni – er mwyn cynnig y cyfle iddynt brofi awyrgylch unigryw rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Principality.”

Ni fydd yr holl ostyngiadau ar gael pan fydd y tocynnau’n mynd ar werth i’r cyhoedd – felly sicrhewch eich tocynnau trwy eich clwb rygbi lleol: Welsh Rugby Union | Club & Community | Club Finder

GEMAU A PHRISIAU GEMAU CYFRES YR HYDREF 2025

CYMRU V ARIANNIN, SUL 9FED TACHWEDD, STADIWM PRINCIPALITY

BLAENORIAETH (Debentur/ Aelodau Premium/ Aelodau Swyddogol / Tocynnau Tymor / Clybiau):  CAT A £40/£20 Consesiwn, CAT B £30/£15 Consesiwn, CAT C £20/£10 Consesiwn, Ardal Heb Alcohol £20/£10 Consesiwn

GWERTHIANT CYHOEDDUS: CAT A £45/£22.50 Consesiwn, CAT B £35/£17.50 Consesiwn, CAT C £25/£12.50 Consesiwn, Ardal Heb Alcohol £25/£12.50 Consesiwn.

CYMRU V JAPAN, SADWRN 15ed TACHWEDD, STADIWM PRINCIPALITY

BLAENORIAETH (Debentur/ Aelodau Premium/ Aelodau Swyddogol / Tocynnau Tymor / Clybiau): CAT A £40/£20 consesiwn, CAT B £30/£15 Consesiwn, CAT C £20/£10 Consesiwn, Ardal Heb Alcohol £20/£10 Consesiwn.

GWERTHIANT CYHOEDDUS: CAT A £45/£22.50 Consesiwn, CAT B £35/£17.50 Consesiwn, CAT C £25/£12.50 Consesiwn, Ardal Heb Alcohol £25/£12.50 Consesiwn.

CYMRU V SELAND NEWYDD, SADWRN 22ain TACHWEDD, STADIWM PRINCIPALITY

BLAENORIAETH (Debentur/ Aelodau Premium/ Aelodau Swyddogol / Tocynnau Tymor / Clybiau):  CAT A £100/£50 Consesiwn, CAT B £75/£37.50 Consesiwn, CAT C £55/£27.50 Consesiwn, Ardal Heb Alcohol £55/£27.50 Consesiwn

GWERTHIANT CYHOEDDUS: CAT A £105/£52.50 Consesiwn, CAT B £80/£40 Consesiwn, CAT C £60/£30 Consesiwn, Ardal Heb Alcohol £60/£30 Consesiwn.

CYMRU V DE AFFRICA, SATURDAY 29ain TACHWEDD, STADIWM PRINCIPALITY

PRIORITY PRICE (Debenture holders/Premium Members/Official Members/Season Ticket Holders/Clubs/): CAT A £85/£42.50 concession, CAT B £65/£32.50 Concession, CAT C £45/£22.50 Concession, AFZ £45/£22.50 Concession

PUBLIC SALE: CAT A £90/£45 Concession, CAT B £70/£35 Concession, CAT C £50/£25 Concession, AFZ £50/£25 Concession

BLAENORIAETH (Debentur/ Aelodau Premium/ Aelodau Swyddogol / Tocynnau Tymor / Clybiau):  CAT A £85/£42.50 Consesiwn, CAT B £65/£32.50 Consesiwn, CAT C £45/£22.50 Consesiwn, Ardal Heb Alcohol £50/£25 Consesiwn

GWERTHIANT CYHOEDDUS: CAT A £90/£45 Consesiwn, CAT B £70/£35 Consesiwn, CAT C £50/£25 Consesiwn, Ardal Heb Alcohol £50/£25 Consesiwn.

Bydd y tocynnau cyhoeddus yn mynd ar werth ar yr 17eg o Fehefin.

Mae modd prynu pecynnau lletygarwch trwy Principality Stadium Experience o £270 + TAW  wru.wales/vip.

Pedair gêm brawf gofiadwy mewn Cyfres Haf Hudolus. Byddwch yno.

Related Topics