Bu farw Mark Jones – gynrychiolodd Cymru yng ngêm yr undeb a’r cynghrair – yn 59 oed.
Fe grëodd yr wythwr cydnerth argraff yn gynnar gan iddo gynrychioli tîm ieuenctid Cymru ac yn fuan iawn wedi hynny fe gafodd ei gyfle i gynrychioli Castedd Nedd o dan arweiniad yr hyfforddwyr Ron Waldron a Glen Ball. Aeth ymlaen i gynrychioli Cymru 15 o weithiau ac fe chwaraeodd 9 gwaith dros dîm rygbi Cynghrair ei wlad hefyd. Fe enillodd 1 cap dros Brydain yn ogystal.
‘Roedd Mark Jones yn chwaraewr corfforol a dawnus ac yn ystod ei gyfnod ar y Gnoll, daeth Castell Nedd yn un o dimau gorau Prydain.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros y clwb ar y 7fed o Fedi 1985 pan drechwyd Abertyleri o 20-10. Athroniaeth y tîm ar y pryd oedd sicrhau bod eu blaenwyr yn gryf yn y chwarae gosod – ond yn ddawnus gyda’r bêl hefyd. Y pac osododd y syflaen i Bencampwriaethau’r clwb yn 1986/87, 1988/89, ac 1990/91 ac fe enillon nhw Gwpan Schweppes URC ym 1989 a 1990 hefyd.
Yn ystod tymor chwedlonol 1988/89 fe sgoriodd y clwb 345 o geisiau – a chyfanswm o 1,917 o bwyntiau oedd yn record byd ar y pryd. Llwyddodd Jones i sgorio 25 o geisiau gan dorri record Dai Morris a Mike Thomas o safbwynt nifer y ceisiau sgoriwyd gan flaenwr dros Gastell Nedd mewn un tymor.
Dywedodd cyn glo Cymru a Chastell Nedd Gareth Llewellyn: “Mae’r newyddion am Mark yn hynod o drist. ‘Roedd yn ffrind da i mi a hoffwn gydymdeimlo gyda’i deulu ar eu colled.
“Roedd Mark yn athletwr o fri ac yn chwaraewr hynod o gorfforol. Fe gafodd ei labelu fel ychydig o ‘fwli’ ar y cae – ond er ei fod yn gallu plygu’r rheolau ambell waith – ‘roedd yn gallu derbyn triniaeth debyg gan eraill hefyd.
“Bydd pawb chwaraeodd gydag ef yn gweld ei golli’n fawr.
“Roedd yn gymeriad gwahanol iawn oddi ar y cae rygbi – eithaf tawel a chyfeillgar iawn ac ‘rwy’n credu i bobl ddeall ei gymeriad yn llawer gwell wedi iddo gyhoeddi ei lyfr ‘Fighting to Speak – Rugby, Rage & Redemption” yn 2022. Wedi i unrhyw un ddarllen y llyfr, ‘roedd hi’n gwbl glir faint o effaith yr oedd ei atal dweud wedi dylanwadu ar ei fywyd.”
Yr unig ffordd yr oedd Mark Jones yn gallu rhyddhau ei rwystredigaeth a’i hunan atgasedd oedd ar y maes chwarae. Fe gafodd ei ddanfon o’r cae 6 gwaith yn ystod ei yrfa – olygodd ei fod wedi ei wahardd am gyfanswm o 33 o wythnosau am chwarae treisgar. Cafodd gawod gynnar tra’n cynrychioli XV Cymru yn erbyn Canada ym 1989 – ond llwyddodd y Cymry i ennill o 31-29 yn y pendraw.
Mewn un digwyddiad, fe achosodd anaf difrifol i lygad gwrthwynebwr – ac yn union wedi hynny fe benderfynodd bod yn rhaid iddo dderbyn cymorth proffesiynol er mwyn newid ei ffyrdd a gwella ei atal dweud.
‘Roedd Mark Jones eisoes wedi cynrychioli tîm B Cymru pan enillodd ei gap llawn cyntaf dros ei wlad yn erbyn Yr Alban ym 1987. Er i Jones sgorio cais yn y gêm honno, colli’r ornest wnaeth y Cymry.
Wedi i Paul Moriarty gael ei anafu ar daith Cymru i Seland Newydd y flwyddyn ganlynol – teithiodd Mark Jones i bendraw’r byd – ac fe gamodd o’r fainc yn yr ail brawf ar y daith honno.
Daeth tro sylweddol ar fyd Mark Jones ym 1991 pan arwyddodd i glwb rygbi tri ar ddeg Hull. Chwaraeodd 67 o gemau iddyn nhw cyn symud i Warrington ym 1995.
Y flwyddyn honno – fe lwyddodd tîm Cymru i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd – ac fe chwaraeodd Jones ran amlwg yn yr ymgyrch honno wrth iddo gyd-chwarae gyda John Devereux, Adrian Hadley, Jonathan Davies, Jonathan Griffiths, David Young, Richard Moriarty, Richard Webster, Scott Quinnell, Rowland Phillips a Jonathan Davies – oedd hefyd wedi symud o gêm yr undeb at gamp y cynghrair.
Wedi dwy flynedd gyda Warrington – oedd yn cynnwys blwyddyn gyntaf un y Super League ym 1996 – dychwelyd i Gymru fu hanes Mark Jones.
Erbyn hynny ‘roedd gêm yn undeb wedi troi’n broffesiynol ac fe ymunodd Jones â Glyn Ebwy. Cafodd ei ddewis i deithio i Zimbabwe a De Affrica gyda Chymru ym 1998 – ond yn anffodus cafodd ei anafu cyn y daith.
Treuliodd gyfnod byr yn cynrychioli Pont-y-pŵl cyn dychwelyd i’r Gnoll ac yn 2004 fe enillodd Gwpan Her URC unwaith eto’n dilyn buddugoliaeth dros Gaerffili.
Dywedodd Ysgrifennydd Clwb Rygbi Castell Nedd, Mike Price: “Roedd Mark Jones yn chwaraewr aruthrol – un o’r goreuon erioed i gynrychioli ein clwb. ‘Roedd hefyd yn berson hynod o boblogaidd a gwylaidd a bydd colled fawr ar ei ôl.”
Troi at hyfforddi fu hanes Mark Jones wedi i’w gyfnod fel chwaraewr ddod i ben ac fe dreuliodd gyfnodau’n gwneud hynny gyda Rotherham, Aberafan a’r Dyfnant – cyn iddo symud i’r Dwyrain Canol i weithio fel prif dechnegydd labordy Ysgol Ryngwladol Al Khor Doha yn Qatar.
Tra’n ymarfer yn y gampfa yn Abu Dhabi y bu farw Mark Jones o drawiad ar ei galon ar yr 22ain o Fai. Hoffai Undeb Rygbi Cymru estyn pob cydymdeimlad i’w deulu a’i ffrindiau.
Mark Jones: Cap Rhif 840 (15 cap).
Ganed 22 Mai 1965 yn Nhredegar
Bu farw yn Qatar ar 22 Mai 2025.