Mae pedawr aelod o staff Undeb Rygbi Cymru wedi eu dewis i deithio gyda’r Llewod i Awstralia dros yr haf.
Bydd y dadansoddwr Rhodri Bown yn gweithio ar ei bumed taith gyda’r Llewod wedi iddo deithio gyda’r garfan yn 2009, 2013, 2017 a 2021.
Fe ymunodd Bown gydag Undeb Rygbi Cymru yn 2004 cyn iddo gael ei benodi’n Brif Ddadansoddwr Perfformiad yr Undeb yn – gyda chyfrifoldeb am brif dimau’r Dynion a’r Menywod, y carfanau iau, dyfarnwyr a chystadleuaeth Super Rygbi Cymru.
Yn absenoldeb Rhodri Bown, bydd Marc Kinnaird – deithiodd gyda’r Llewod ei hun yn 2021 – yn arwain tîm dadansoddi Cymru ar y daith i Japan dros yr haf.
Mae tri aelod o dîm meddygol Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi cael eu dewis i deithio gyda’r Llewod. Mae Dr Geoff Davies wedi bod yn feddyg ar dîm Cymru ers mis Mai 2012 ac mae’r ffisiotherapydd John Miles – rheolwr meddygol rygbi cymunedol Cymru – hefyd yn mynd i ymuno gyda’r Llewod am yr eildro o’r bron.
Y trydydd aelod o dîm meddygol Cymru fydd yn teithio i Awstralia dros yr haf yw’r arbenigwr meinwe meddal, Susie Gill – ymunodd gydag Undeb Rygbi Cymru o’r Harlequins yn gynharach eleni. Dyma fydd ei thaith gyntaf hi gyda’r Llewod.

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Rwy’n arbennig o hapus dros Rhodri, Geoff, John a Susie. Mae’r ffaith eu bod wedi eu dewis gan y Llewod yn fraint aruthrol iddyn nhw fel unigolion – ac hefyd i’w teuluoedd a’u ffrindiau.
“Mae teithiau’r Llewod yn brofiadau arbennig iawn ac ‘rwy’n gwybod y bydd pawb o’r Undeb a theulu rygbi Cymru’n dymuno’r gorau iddyn nhw ar y daith i Awstralia.”
Staff Undeb Rygbi Cymru ar gyfer Taith y Llewod 2025
Tîm Meddygol
Dr Geoff Davies – Meddyg y tîm
Susie Gill – Arbenigwr meinwe meddal
John Miles – Ffisiotherapydd
Tîm Dadansoddi
Rhodri Bown – Dadansoddwr