Mae Undeb Rygbi Cymru’n falch i gadarnhau bod clybiau’r Dreigiau a Chaerdydd wedi arwyddo’r Cytundeb Rygbi Proffesiynol Newydd (PRA25).
Mae trefniadau cyllid, yr amodau a disgwyliadau cytundeb PRA25 wedi eu nodi’n glir eisoes – gyda chynnydd a sicrwydd cyllidol o hyd at £6.5m wedi ei gadarnhau (o’i gymharu â’r gwarant presennol o £4.5m) ar gyfer y tymor nesaf.
Bydd Undeb Rygbi Cymru bellach yn canolbwyntio ar gryfhau ei pherfformiad gweithredol trwy ail-drefnu ei dyled bresennol i gwrdd â’r ymrwymiad i gytundeb PRA25.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Rwy’n hynod falch fy mod yn gallu cadarnhau bod PRA25 wedi ei gytuno gan Gaerdydd a’r Dreigiau.
“Bydd y cytundeb newydd yn cynnig sylfaen gadarn fydd yn eu galluogi i sicrhau llwyddiant cynaliadwy ar y maes chwarae gan hefyd gefnogi datblygiad y gêm broffesiynol yma yng Nghymru.”
Mae’r Dreigiau a Chaerdydd wedi dangos eu hymrwymiad i ddyfodol hirdymor rygbi proffesiynol yng Nghymru tan 2029.
Mae Undeb Rygbi Cymru’n ddiolchar iddynt am eu pendantrwydd ar yr eiliad allweddol hon.