Bydd Craig Evans yn dyfarnu ei 16eg gêm ryngwladol dros yr haf pan fydd yn y canol ar gyfer yr ornest rhwng Wrwgwai a Rwmania ym Montevideo.
Mae World Rugby wedi dewis Evans a Ben Whitehouse i fod yn aelodau o’r timau dyfarnwyr fydd yn gofalu am 27 o gemau rhyngwladol yn ystod mis Gorffennaf.
Bu Evans, sydd bellach yn 33 oed, yn brysur yn ystod y Gemau Olympaidd a Chwpan y Byd yn Ffrainc yn 2023. Buddugoliaeth Malta o 39-0 yn erbyn Israel yn 2016 oedd ei gêm ryngwladol gyntaf gyda’r chwiban.
Wythnos wedi iddo fod yn y canol yn Wrwgwai ar y 12fed o Orffennaf – bydd yn cynorthwyo Gianluca Gnechi pan fydd Los Teros yn croesawu Ariannin i Salta.
Mae Ben Whitehouse wedi ei ddewis i fod yn gynorthwydd ar gyfer dwy o gemau’r Gwyddelod dros yr haf. Bydd y cyntaf o’r rheiny yn Tbilisi ar y 5ed o Orffennaf ac wythnos wedi’r ornest yn Georgia – bydd yn teithio i Lisbon ar gyfer ymweliad Iwerddon â Phortiwgal.
Yr Archentwr Damian Schneider fydd yn dyfarnu gêm brawf gyntaf Cymru yn Japan yn Kitakyushu gyda’r ddau Sais Karl Dickson a Luke Pearce yn ei gynorthwyo ac Ian Tempest, sydd hefyd o Loegr yn Ddyfarnwr Teledu.
Pearce fydd yn y canol ar gyfer yr ail brawf yn Kobe gyda Schneider a Dickson ar y naill ystlys a’r llall. Glen Newman o Seland Newydd fydd y Dyfarnwr Teledu ar yr achlysur hwnnw.
Bydd y Llewod yn teithio Awstralia dros yr haf hefyd wrth gwrs a Ben O’Keeffe (Seland Newydd), Andrea Piardi (Yr Eidal) a Nika Amashukeli (Georgia) sydd wedi eu dewis i ddyfarnu’r tair gêm brawf yn Brisbane, Melbourne a Sydney. Richard Kelly (Seland Newydd), Eric Gauzins (Ffrainc) a Marius Jonker (De Affrica) fydd y Dyfarnwyr Teledu yn eu tro.
James Doleman (Seland Newydd) fydd yn y canol ar gyfer gêm gyntaf y Llewod dros yr haf wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y daith i Awstralia pan fyddant yn herio Ariannin yn Nulyn ar yr 20fed o Fehefin.
Dywedodd Su Carty, Cadeirydd Pwyllgor Dyfarnwyr Emirates World Rugby: “Mae’n hynod bwysig bod gennym ystod eang o ddyfarnwyr o wahanol wledydd yn gofalu am brif gemau’r gamp ac mae’r penodiadau yma yn cadarnhau’r dyhead a’r datblygiad hwnnw.”