Wrth iddo arwain tîm Saith Bob Ochr Prydain i’r maes yn Los Angeles yn erbyn Ffrainc dros benwythnos Gŵyl y Banc, fe gymrodd Morgan Williams ran yn ei 50fed cystadleuaeth ar gylchdaith HSBC.
Williams yw’r trydydd Cymro’n unig i gyrraedd y garreg filltir nodedig honno – wrth iddo ddilyn yn ôl traed Adam Thomas a Luke Treharne. Unwaith i’w ragflaenwyr ymddangos mewn 50 o gystadlaethau fe ymddeolodd y ddau ohonyn nhw o’r gylchdaith.
Cynrychioli Cymru wnaeth Morgan Williams yn ei 19 cystadleuaeth gyntaf – cyn i’r undebau ‘cartref’ uno yn ystod tymor 2022/23.
Yn erbyn Ffrainc, ‘roedd pasio celfydd Williams yn amlwg unwaith eto ac fe arweiniodd ei ddoniau at gais agoriadol i Matt Davidson yn nhrydydd munud eu gêm yn erbyn Awstralia. Er i’w weledigaeth a’i ddoniau greu cais hwyr i Charlton Kerr – doedd hynny ddim yn ddigon i atal yr Awstraliaid rhag hawlio’r fuddugoliaeth o 33-26.
Yn anffodus i Morgan Williams a thîm Prydain – fe gollon nhw’n erbyn De Affrica (12-10) a Ffrainc (24-10) yn eu dwy gêm grŵp olaf.