Mae Leighton Davies wedi ei benodi’n Brif Swyddog Masnachol Undeb Rygbi Cymru – swydd newydd sydd â chyfrifoldeb o sicrhau twf ar draws pob lefel o rygbi Cymru.
Mae Davies wedi gweithio i’r Undeb fel Prif Swyddog Gweithredol ers mis Mawrth 2024 – ac ef sydd wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno systemau ariannol cadarn ar draws yr holl fusnes er mwyn sicrhau bod Undeb Rygbi Cymru’n gweithredu ar seilau cyllidol cadarn. Mae hefyd yn aelod o’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol.
Bydd Mr Davies yn ymgymryd â’i swydd newydd dros yr haf a bydd olynydd iddo i’w swydd bresennol yn cael ei benodi/ei phenodi gan yr Undeb.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Rydym yn arbennig o falch bod Leighton wedi derbyn yr her newydd hon – sydd mor allweddol i ddyfodol rygbi Cymru – yn enwedig o safbwynt gwneud y busnes yn fwy proffesiynol a masnachol – sef un o weledigaethau’n strategaeth ‘Cymru’n Un’.
Ychwanegodd Leighton Davies: “Mae’r swydd newydd yn mynd i fod yn hynod gyffrous. Mae gan rygbi Cymru gymaint o botensial i dyfu ymhellach a dyna yw prif apêl y swydd hon i mi. Does dim amheuaeth ein bod yn mynd trwy gyfnod heriol ar hyn o bryd yma yng Nghymru a ledled y byd rygbi – ond ‘rwy’n hynod o gyffrous am ein potensial a’n cynlluniau i wella pethau.”