Gall Undeb Rygbi Cymru gadarnhau na lwyddwyd i ddod i gytundeb gyda’r Gweilch a’r Scarlets am y Cytundeb Rygbi Proffesiynol newydd (PRA25) erbyn yr amser penodol a osodwyd.
O’r herwydd, mae’r Undeb wedi cymryd y penderfyniad anodd ond angenrheidiol – o roi’r rhybudd o ddwy flynedd sydd ei angen, i ddod â’r Cytundeb Rygbi Proffesiynol i ben – er mwyn gallu parhau gyda’r cynlluniau ad-drefnu dyled.
Mae’r Dreigiau a Chaerdydd wedi arwyddo’r cytundeb newydd (PRA25) yn dilyn y trafodaethau sydd wedi digwydd ers mis Awst 2024.
Cynlluniwyd y strategaeth ‘Cymru’n Un’ er mwyn creu dyfodol mwy unedig, cystadleuol a chynaliadwy’n ariannol ar bob lefel o’r gamp yng Nghymru. Nod URC o ddechrau’r broses hon oedd cynnal pedwar o glybiau proffesiynol yma yng Nghymru (wedi eu hariannu’n gyfartal) o fewn y fframwaith hwn. Yn anffodus ni lwyddwyd i ddod i gytundeb gyda dau o’r clybiau hynny.
Er bod y penderfyniad hwn yn un anodd i’r Undeb – mae gan y corff rheoli gyfrifoldeb dros yr holl gamp yng Nghymru ac mae’n rhaid i ddyfodol strategol ac ariannol gymryd blaenoriaeth.
Yn ymarferol, bydd URC yn parhau i gydweithio’n agos – gyda meddwl agored ac adeiladol – gyda’r pedwar clwb proffesiynol er mwyn trafod y dyfodol y tu hwnt i Fehefin 2027.
Wedi dweud hynny – o ganlyniad i’r newidiadau sylweddol sydd wedi digwydd yn y tirlun rygbi ers dechrau’r trafodaethau PRA25 – ni fydd y system yn dychwelyd at y model o bedwar clwb proffesiynol wedi eu hariannu’n gyfartal.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Byddwn yn parhau i drafod gyda’r pedwar clwb ac rydym yn derbyn bod y sefyllfa’n mynd i greu cyfnod ansicr. Byddwn yn trin y clybiau, y chwaraewyr a’r cefnogwyr gyda pharch a thegwch trwy gydol y broses.
“Rydym yn cydnabod ymroddiad pob un o’r clybiau i rygbi Cymru a byddwn yn creu cynllun newydd fydd yn gosod lles yr holl gamp yma yng Nghymru yn ganolog ym mhob trafodaeth.
“Pan gyhoeddais egwyddorion ein strategaeth ym mis Gorffennaf 2024, fe nodais bod heriau sylweddol am wynebu’r gamp yma yng Nghymru a ledled y byd hefyd ac y byddai’n rhaid i ni newid cyfeiriad ambell dro. Mae’n rhaid i ni achub ar y cyfle yma i wneud hynny.
“Ein nod o hyd yw adeiladu strwythur o’r radd flaenaf un fydd yn cefnogi rygbi Cymru am genedlaethau i ddod.”
Ychwanegodd Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol Malcolm Wall:
“Fel sydd wastad yn digwydd, bydd y cyfnod nesaf o drafod yn digwydd gyda lles yr holl gamp yma yng Nghymru wrth galon popeth.”