News

Cyhoeddi Trefn Gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026

Stadiwm Principality
Stadiwm Principality

Heddiw mae trefn y gemau ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 wedi cael eu cadarnhau – a bydd y gystadleuaeth yn dechrau nos Iau y 5ed o Chwefror 2026 ac yn dod i ben ddydd Sadwrn y 14eg o Fawrth pan fydd pob un o’r timau’n chwarae ar y diwrnod olaf.

Bydd ymgyrch Cymru’n dechrau gyda thaith i Loegr ddydd Sadwrn y 7fed o Chwefror 2026 am 4.40pm.

Croesawu Ffrainc i Gaerdydd wyth niwnod yn ddiweddarach fydd y Crysau Cochion cyn herio’r Alban yn Stadiwm Principality chwe niwrnod wedi hynny.

Wedi bron i wythnos o egwyl, taith i Ddulyn i gartref y Gwyddelod sydd ar y gweill i’r Cymry – cyn iddyn nhw wedyn ddod â’u hymgyrch i ben ar eu tomen eu hunain yn erbyn Yr Eidal ar y 14eg o fis Mawrth.

Gall cefnogwyr yn y Deyrnas Unedig wylio Pencampwriaeth 2026 ar y BBC ac ITV. Bydd manylion y darllediadau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi maes o law.

 

Trefn Gemau Cymru – Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026
Lloegr v Cymru, Twickenham, Sadwrn y 7fed o Chwefror 2026 (4.40pm)
Cymru v Ffrainc, Stadiwm Principality, Sul y 15ed o Chwefror 2026 (3.10pm)
Cymru v Yr Alban, Stadiwm Principality, Sadwrn yr 21ain o Chwefror 2026 (4.40pm)
Iwerddon v Cymru, Stadiwm Aviva, Gwener y 6ed o Fawrth 2026 (8.10pm)
Cymru v Yr Eidal, Stadiwm Principality, Sadwrn y 14eg o Fawrth 2026 (4.40pm)

Mae Calendr Rygbi Cymru ar gael YMA fel y gall cefnogwyr sicrhau eu bod yn gallu gwylio pob gêm.

Mae rhestr lawn o holl gemau Pencampwriaeth 2026 ar gael ar wefan swyddogol y Bencampwriaeth.

 

Manylion Tocynnau
Bydd y manylion llawn ar gael yn fuan – ond gall y cefnogwyr gofrestru eu diddordeb YMA – er mwyn dysgu pryd y bydd y tocynnau’n mynd ar werth trwy’r clybiau ac Undeb Rygbi Cymru.

Mae nifer o becynnau lletygarwch swyddogol ar gael ar gyfer gemau cartref Cymru a gall cefnogwyr eu prynu YMA.

Bydd partneriaid teithio swyddogol Undeb Rygbi Cymru – sef Gullivers Sports Travel – yn trefnu teithiau i’r gemau oddi-cartref. Bydd y wybodaeth berthnasol ar wefan y cwmni https://gulliverstravel.co.uk/event/six-nations

 

Tîm o Dan 20 Dynion Cymru
Bydd gemau Pencampwriaeth o Dan 20 y dynion yn adlewyrchu trefn gemau’r prif dimau cenedlaethol ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 ac yn cael eu chwarae ar yr un penwythnosau hefyd. Bydd y manylion am ddyddiadau a lleoliadau’r gemau o Dan 20 yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Bydd calendrau penodol ar gyfer gemau’r Dynion a’r Menywod yn cael eu cyflwyno a’u gwarchod yn 2026 er mwyn cadarnhau mwy o gydweithio rhwng y gemau domestig a rhyngwladol.

Mae’r trefniadau hyn wedi eu llunio o ganlyniad i gydweithio rhwng y chwaraewyr, yr undebau, y cymdeithasau rhanbarthol a’r cystadlaethau rhyngwladol a chartref.

Dim ond un penwythnos rhydd fydd yn digwydd yn ystod Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Dynion yn 2026 – yn hytrach na’r ddau fu eleni.

Bydd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod yn dechrau dair wythnos yn hwyrach y flwyddyn nesaf – wedi i gystadleuaeth y Dynion ddod i ben.

Related Topics