Bydd Cyfres Haf y Chwe Gwlad ar gyfer rygbi menywod yn dychwelyd eleni ac yn cael ei chynnal yng Nghymru.
Bwriad y gystadleuaeth yw cynnig profiad gwerthfawr i chwaraewyr addawol o’r chwe gwlad i’w cynorthwyo i gamu ymlaen i’r llwyfan rhyngwladol llawn.
Yn dilyn y gyfres gyntaf yn 2024, aeth 14 o chwaraewyr ymlaen i ennill eu capiau cyntaf ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 – gan gynnwys Maisie Davies ac Alaw Pyrs dros Gymru, Alia Antonietta Bitonci i’r Eidal a’r Albanes Molly Poolman.
Cymru fydd yn cynnal y gystadleuaeth ym mis Gorffennaf gyda’r holl gemau’n digwydd yng Nghanolfan Ragoriaeth Chwaraeon Ystrad Mynach – ddydd Sadwrn y 5ed, ddydd Gwener yr 11eg gyda’r diwrnod olaf o gystadlu ddydd Iau yr 17eg o’r mis.
Mae Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eisoes wedi sefydlu ei hun fel cystadleuaeth flynyddol fwyaf y byd o safbwynt rygbi merched a menywod – ac mae gwaith sylweddol yn parhau i ddigwydd er mwyn hyrwyddo’r gamp ymhellach.
Bu’r Ŵyl o dan 18 yn ddiweddar yn llwyfan arbennig i ddatblygu doniau chwaraewyr ifanc hefyd a bydd y Gyfres Chwe Gwlad dros yr haf yn dysteb bellach i’r ymroddiad sy’n bodoli i ddarparu mwy o gyfleoedd i dalentau ifanc y gamp i arddangos a meithrin eu doniau.
Bydd y Gyfres hefyd yn cynnig y cyfle i hyfforddwyr a swyddogion ifanc gamu’n agosach at y gêm elît wrth iddynt ennill profiad gwerthfawr o ganlyniad i’r cystadlu yn Ystrad Mynach.
Bydd y chwe thîm yn chwarae ar y tri diwrnod o gystadlu a bydd mwyafrif eu chwaraewyr o dan 20 oed. Serch hynny, bydd gan bob undeb yr hawl i ddewis hyd at 5 o chwaraewyr o dan 23 oed ar gyfer y garfan ar bob diwrnod o gystadlu.
Dywedodd Julie Patterson, Pennaeth Rygbi Menywod y Chwe Gwlad: “Mae’r Gyfres yn rhan bwysig o’n strategaeth a’n hymrwymiad i gefnogi a thyfu’r gamp ar gyfer ein merched a’n menywod. Does dim amheuaeth bod y Gyfres yn cynnig profiadau gwerthfawr iawn i’r chwaraewyr wrth iddyn nhw geisio gwneud y cam i’r llwyfan rhyngwladol llawn.”
Bydd gemau’r Gyfres ar gael i’w gwylio ar sianel Swyddogol You Tube y Chwe Gwlad unwaith eto eleni – gyda deunydd ychwanegol a chefnogol i’w gweld ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol penodol y trefnwyr hefyd.