Mae Ben Breakspear wedi ei ddewis yn un o 10 dyfarnwr ar gyfer Pencampwriaeth o dan 20 y Byd yn Yr Eidal.
Bydd Aled Griffiths yn ymuno gydag ef fel un o’r pum swyddog teledu ychwanegol ar gyfer y gemau fydd yn cael eu cynnal yn Calvisano, Rovigo, Verona a Viadana.
Fe gafodd Breakspear y profiad o ddyfarnu’n y gystadleuaeth yn 2023 cyn iddo gael ei ddewis i ofalu am rai o gemau 7 Bob Ochr y Gemau Olympaidd ym Mharis.
Dechreuodd ei daith gyda’r chwiban yn ystod ei ddyddiau’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun ac fe ddatbygodd i fod yn aelod o Academi Dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru.
Cafodd cyn-faswr tîm ieuenctid Abercynon y cyfle i fod yn bumed swyddog yn ystod gêm Cymru’n erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2017 – ac yntau ond yn 19 oed – tra’n astudio fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dewiswyd Ben Breakspear i ddyfarnu Rownd Derfynol gyntaf erioed Super Rygbi Cymru rhwng Casnewydd a Glyn Ebwy’n ddiweddar ac mae wedi gofalu am gemau’n y Bencampwriaeth Rygbi Unedig dros y ddau dymor diwethaf hefyd.
Dywedodd Ian Davies, Rheolwr Perfformiad Dyfarnwyr Elît Undeb Rygbi Cymru: “Ers i mi gael fy mhenodi i’r swydd, un o fy mlaenoriaethau yw cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i’n dyfarnwyr ni.
“Flwyddyn yn ôl fe ddyfarnodd Ben ei gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth Unedig rhwng Caeredin a Zebre ac mae ei berfformiadau cyson yn y Bencampwriaeth a Chwpan Her Ewrop wedi arwain at ei benodiad yn y Bencampwriaeth o Dan 20 yn Yr Eidal.
“Ro’n i hefyd eisiau i rai o’n dyfarnwyr mwy profiadol droi eu golygon at ddyletswyddau Dyfarnwyr Teledu. Mae’r ffaith bod Aled wedi ei ddewis yn gydnabyddiaeth o’i waith caled a’r Dyfarnwyr Teledu eraill yn ein grŵp sydd wedi ei helpu a’i herio ar hyd y daith.”
Y Dyfarnwyr sydd wedi eu dewis ar gyfer y gystadleuaeth yn Yr Eidal yw: Tomas Bertazza (Ariannin), Ben Breakspear (Cymru), Griffin Colby (De Affrica), Katsuki Furuse (Japan), Peter Martin (Iwerddon), Marcus Playle (Seland Newydd), Jérémy Rozier (Ffrainc), Filippo Russo (Yr Eidal), Lex Weiner (UDA) a Morgan White (Hong Kong China).
Y pum Dyfarnwr Teledu fydd: Leo Colgan (Iwerddon), Graham Cooper (Awstralia), Aled Griffiths (Cymru), Quinton Immelman (De Affrica) a Dan Jones (Lloegr).
DYFANWYR O GYMRU YM MHENCAMPWRIAETH O DAN 20 Y BYD
2024: De Affrica – Adam Jones
2023: Yr Eidal – Ben Breakspear
2019: Ariannin – Craig Evans
2018: Ffrainc – Dan Jones
2017: Georgia – Dan Jones
2016: Lloegr – Craig Evans
2015: Yr Eidal – Ben Whitehouse
2014: Seland Newydd – Dim ond Dyfarnwyr o Hemisffer y De
2013: Ffrainc – Ian Davies
2012: De Affrica – Leighton Hodges
2011: Yr Eidal – Leighton Hodges
2010: Ariannin – Dim cynrychiolaeth o Gymru
2009: Japan – James Jones
2008: Cymru – James Jones