News

Carfan estynedig i baratoi ar gyfer Pencampwriaeth o Dan 20 y Byd

Steff Emanuel

Mae Prif Hyfforddwr tîm o dan 20 Cymru, Richard Whiffin, wedi enwi carfan o 45 chwaraewr i baratoi ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi’r Byd 2025.

Bydd y chwaraewyr yn dechrau ymgasglu cyn ddiwedd mis Mai gyda’r union ddyddiadau’n ddibynol ar ddyletswyddau pob unigolyn gyda’i glwb.

Mae gan dîm o dan 20 Cymru ddwy gêm baratoadol cyn y gystadleuaeth fawr. Ddydd Gwener 6 Mehefin byddant yn wynebu Lloegr ar Barc Pont-y-pŵl ac yna ddydd Gwener 13 Mehefin bydd y Crysau Cochion yn croesawu’r Eidal i Barc yr Arfau.

Bydd y garfan derfynol o 30 chwaraewr i deithio i’r Eidal ar gyfer y Bencampwriaeth, sy’n cael ei chynnal rhwng 29 Mehefin ac 19 Gorffennaf, yn cael ei chyhoeddi rhwng y ddwy gêm baratoadol.

Bydd tocynnau i wylio’r gemau yn erbyn Lloegr a’r Eidal ar gael ar y giât yn y ddwy stadiwm am bris o £5 i oedolion gyda mynediad am ddim i rai o dan 16 oed.

Dywedodd Richard Whiffin: “Mae’r garfan o 45 yn gymysgedd o fechgyn a wnaeth yn dda iawn yn ystod y Chwe Gwlad – ac eraill grëodd argraff wrth ennill y tair gêm yn Vichy wedi hynny. Fe gafodd nifer o’r bechgyn o dan ddeunaw gyfle yn y gemau hynny – ac fe wnaethon nhw’n dda hefyd.

“Wrth i dymor cyntaf Super Rygbi Cymru ddod i ben – mae yna fechgyn sydd wedi creu argraff sylweddol yn y gystadleuaeth honno ac mae’n nhw’n bendant wedi rhoi rhywfaint o bwysau ar y bois chwaraeodd yn y Chwe Gwlad eleni.

“Hyd yn oed os na fyddan nhw’n cael eu dewis ar gyfer Pencampwriaeth y Byd fis nesaf – mi fyddan nhw’n ein meddyliau ar gyfer Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf.

“Mae’r wythnosau nesaf yn mynd i fod yn rhai pwysig iawn i’r bechgyn. Ry’n ni wedi gosod pwyslais mawr ar ddatblygu sgiliau unigol y chwaraewyr.

“Bydd y sesiynau ymarfer yn hynod gorfforol hefyd – ond wrth wella’r unigolyn – mae’r tîm yn mynd i wella fel uned hefyd. Mae honno’n neges fydd yn cael ei hail-adrodd yn gyson i bob aelod o’r garfan.

“Ry’n ni eisiau i bawb ddod allan o’r cyfnod nesaf yma o ymarfer gyda’n gilydd yn well chwaraewyr – os ydyn nhw’n hawlio’u lle ar yr awyren i’r Eidal neu beidio. Ry’n ni hefyd eisiau cael ychydig o hwyl gyda’n gilydd.”

Wrth edrych ymlaen yn benodol at y ddwy ornest baratoadol, ychwanegodd Richard Whiffin:”Bydd y gemau’n erbyn Lloegr a’r Eidal yn rhoi syniad clir i ni o ble ry’n ni arni ar hyn o bryd – gan ein bod yn chwarae Pencampwyr y Byd yn y gêm gyntaf cyn wynebu her sylweddol Yr Eidal wedi hynny.

“Ry’n ni’n mynd i ddefnyddio gêm Lloegr i’n helpu i ddewis y 30 terfynol fydd yn ein cynrychioli ym Mhencampwriaeth y Byd, tra bydd yr ornest yn erbyn yr Eidalwyr yn gyfle olaf i’r chwaraewyr gaiff eu dewis, i baratoi cyn i ni fynd allan i’r Eidal a wynebu’r Ariannin yn ein gêm agoriadol.”

Carfan estynedig Cymru

Blaenwyr (25)

Dylan Alford (Scarlets / Rygbi Gogledd Cymru)

Harry Beddall (Dreigiau)

Jake Bowen (Scarlets)

Tom Cottle (Rygbi Gogledd Cymru)

Ioan Emanuel (Caerfaddon)

Keanu Evans (Scarlets)

Luke Evans (Caerwysg)

Will Evans (Scarlets)

Dan Gemine (Gweilch)

Deian Gwynne (Caerloyw)

Saul Hurley (Aberafan)

Caio James (Caerloyw)

Owain James (Dreigiau)

Kenzie Jenkins (Bryste)

Ryan Jones (Dreigiau)

Evan Minto (Dreigiau)

Jac Pritchard (Scarlets)

Sam Scott (Bryste)

Cerrig Smith (Dreigiau)

Harry Thomas (Scarlets)

Nick Thomas (Dreigiau)

Louie Trevett (Bryste)

George Tuckley (Dreigiau)

Cameron Tyler-Grocott (Caerdydd)

Evan Wood (Pont-y-pŵl / Met Caerdydd)

Olwyr (20)

Aidan Boshoff (Bryste)

Tom Bowen (Caerdydd)

Rhys Cummings (Caerdydd)

Osian Darwin-Lewis (Caerdydd)

Sion Davies (Caerdydd)

Ioan Duggan (Dreigiau)

Lewis Edwards (Gweilch)

Steff Emanuel (Caerdydd)

Elijah Evans (Caerdydd)

Harri Ford (Dreigiau)

Logan Franklin (Dreigiau)

Carwyn Leggatt-Jones (Scarlets)

Ellis Lewis (Castell Nedd)

Lloyd Lucas (Caerdydd)

Elis Price (Scarlets)

Harry Rees-Weldon (Dreigiau)

Osian Roberts (Sale)

Dylan Scott (Met Caerdydd)

Harri Wilde (Caerdydd)

Jack Woods (Caerfaddon)

GEMAU PARATOADOL CYMRU AR GYFER PENCAMPWRIAETH RYGBI’R BYD O DAN 20

Ddydd Gwener 6 Mehefin: Cymru v Lloegr

Parc Pont-y-pŵl

17.00h

Pris tocynnau ar y giât yn £5 i oedolion gyda mynediad am ddim i rai o dan 16 oed. 

 

Ddydd Gwener 13 Mehefin: Cymru v Yr Eidal

Parc yr Arfau Caerdydd

17.00h

Pris tocynnau ar y giât yn £5 i oedolion gyda mynediad am ddim i rai o dan 16 oed. 

Related Topics