Mae Prif Hyfforddwr dros dro Cymru, Matt Sherratt, wedi dewis 33 o chwaraewyr ar gyfer y daith haf i Japan pan fydd y Cymry’n chwarae dwy gêm brawf.
Y bachwr Dewi Lake fydd yn arwain y garfan – sydd wedi ennill 581 o gapiau rhyngddynt hyd yn hyn.
Wedi iddynt fethu â chwarae ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni o ganlyniad i anafiadau – mae’r clo Ben Carter, y maswr Sam Costelow a’r prop pen tynn Archie Griffin yn dychwelyd i’r garfan.
Mae chwech o chwaraewyr sydd eto i ennill capiau wedi eu cynnwys sef Liam Belcher (bachwr Caerdydd), Chris Coleman (prop pen tynn y Dreigiau) a’r drinod o’r Gweilch Keelan Giles (asgellwr),Reuben Morgan-Williams (mewnwr) a Garyn Phillips (prop pen rhydd).
Mae Macs Page o’r Scarlets hefyd wedi ei ddewis am y tro cyntaf mewn carfan sy’n cynnwys 19 o flaenwyr ac 14 o olwyr. Oedran cyfartalog y garfan yw 26.
Mae Kieran Hardy, Alex Mann, Josh Macleod, James Ratti, Johnny Williams a Cameron Winnett wedi eu galw i’r garfan ryngwladol unwaith yn rhagor.
Gan bo Dafydd Jenkins yn disgwyl am driniaeth a bod angen cyngor meddygol arbenigol ar Henry Thomas am gyflwr hirdymor – ni ystyriwyd eu dewis i deithio i Japan.
Gwnaed y penderfyniad i gynnig cyfle i Adam Beard a Will Rowlands orffwyso ac felly nid yw’r ddau glo wedi eu cynnwys yn y garfan chwaith.
Dywedodd Matt Sherratt: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael y garfan gyda’n gilydd fel y gallwn ni baratoi’n dda ar gyfer y daith. Mae gennym gymysgedd dda o brofiad, addewid a dawn sy’n gyfuniad cyffrous.
“Bydd teithio i Japan ar gyfer y ddwy gêm brawf yn cynnig gwir her i’r garfan ac mae’r holl dîm hyfforddi’n edrych ymlaen yn fawr at y profiad a’r dasg sydd o’n blaenau.
“Ein bwriad clir yw paratoi’n dylwyr ac effeithiol dros yr wythnosau nesaf a thynnu i’r un cyfeiriad fel carfan gyfan.”
Bydd y chwaraewyr yn ymuno gyda’r garfan ar wahanol adegau o ddydd Llun ymlaen. Bydd yr union ddyddiad hwnnw’n ddibynol ar pryd y gwnaeth eu clybiau unigol gwblhau eu tymor.
Ddiwedd mis Mehefin y bydd y garfan yn hedfan i Japan er mwyn chwarae’r ddwy gêm brawf.
Bydd y prawf cyntaf yn Stadiwm Mikuni World ar y 5ed o Orffennaf – yn gweld Cymru’n dychwelyd i ddinas Kitakyushu – sef cartref y garfan wrth baratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn 2019.
Wythnos yn ddiweddarach bydd y daith yn dod i ben gyda’r ail brawf yn Stadiwm Noevir, Kobe ar y 12fed o Orffennaf.
Mae gan Gullivers Sports Travel – partneriaid teithio swyddogol Undeb Rygbi Cymru – becynnau teithio unigryw ar gyfer y daith haf hon i Japan. Dylai cefnogwyr sydd â diddordeb ymweld â gwefan y cwmni am yr holl fanylion.
Cofiwch hefyd y gallwch wylio Japan yma yng Nghymru’n ddiweddarach eleni yn ystod Cyfres yr Hydref. Bydd tocynnau ar werth trwy Glybiau Undeb Rygbi Cymru heddiw (Mai 20fed) gyda gostyngiad arbennig o £5 ar gael ar gyfer holl docynnau ym mhob categori.
Byddwch yn barod ar gyfer Hydref hudolus o rygbi rhyngwladol – gyda thocynnau ar gael o £10 yn unig. Dewch o hyd i’ch clwb rygbi lleol yma: Welsh Rugby Union | Club & Community | Club Finder
CARFAN CYMRU AR GYFER Y DAITH I JAPAN
Blaenwyr (19)
Keiron Assiratti (Caerdydd – 14 cap)
Liam Belcher (Caerdydd – heb gap)
Ben Carter (Dreigiau – 12 cap)
Chris Coleman (Dreigiau – heb gap)
Elliot Dee (Dreigiau – 56 chap)
Taulupe Faletau (Caerdydd – 108 cap)
Archie Griffin (Caerfaddon – 6 chap)
Dewi Lake (Gweilch 20 cap) Capten
Josh Macleod (Scarlets – 2 gap)
Alex Mann (Caerdydd – 5 cap)
Garyn Phillips (Gweilch – heb gap)
Taine Plumtree (Scarlets – 7 cap)
James Ratti (Gweilch – 1 cap)
Tommy Reffell (Caerlŷr – 27 cap)
Nicky Smith (Caerlŷr – 54 cap)
Gareth Thomas (Gweilch – 40 cap)
Freddie Thomas (Caerloyw – 3 chap)
Aaron Wainwright (Dreigiau – 57 cap)
Teddy Williams (Caerdydd – 6 chap)
Olwyr (14)
Josh Adams (Caerdydd – 61 cap)
Sam Costelow (Scarlets – 18 cap)
Dan Edwards (Gweilch – 2 gap)
Keelan Giles (Gweilch – heb gap)
Kieran Hardy (Gweilch – 23 chap)
Reuben Morgan-Williams (Gweilch – heb gap)
Blair Murray (Scarlets – 8 cap)
Macs Page (Scarlets – heb gap)
Joe Roberts (Scarlets – 5 cap)
Tom Rogers (Scarlets – 9 cap)
Ben Thomas (Caerdydd – 12 cap)
Johnny Williams (Scarlets – 7 cap)
Rhodri Williams (Dreigiau – 9 cap)
Cameron Winnett (Caerdydd – 9 cap)