News

Cadarnhau tîm hyfforddi Cymru ar gyfer y daith haf i Japan

Matt Sherratt
Matt Sherratt fydd yn hyfforddi Cymru ar gyfer y ddau brawf yn Japan.

Mae tîm hyfforddi Cymru ar gyfer y ddwy gêm brawf yn Japan ym mis Gorffennaf wedi ei gadarnhau.

Bydd Matt Sherratt wrth y llyw fel Prif Hyfforddwr dros dro unwaith eto – wedi iddo ofalu am y garfan ar gyfer tair gêm olaf ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 yn erbyn Iwerddon, Yr Alban a Lloegr.

Bydd cyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru – Gethin Jenkins, Adam Jones a T. Rhys Thomas yn ymuno gyda thîm hyfforddi Sherratt. Felly hefyd Danny Wilson sy’n brif hyfforddwr yr Harlequins.

Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Matt am gytuno i dderbyn y cyfrifoldeb o hyfforddi’r garfan unwaith eto, ar gyfer y daith i Japan.

“Croesawyd yr effaith gadarnhaol gafodd Matt a’i dîm hyfforddi mewn cyfnod byr iawn yn ystod y Chwe Gwlad yn fawr. Er bod y Bencampwriaeth wedi profi i fod yn heriol iawn i ni – rydym yn gwybod bod y garfan mewn dwylo diogel iawn wrth i ni gwblhau’r broses o benodi Prif Hyfforddwr ar gyfer yr hirdymor.

“Hoffwn ddiolch i Adam Jones a TR Thomas am ail-ymuno gyda thîm hyfforddi Matt gan hefyd ddiolch i Gethin Jenkins a Danny Wilson am ateb yr alwad ar gyfer y daith.”

Ychwanegodd Matt Sherratt: “Rwyf wrth fy modd cael cyfle arall i hyfforddi Cymru yn y ddwy gêm brawf yn Japan ar gyfer taith a chyfnod cyffrous dros yr haf.

“Hoffwn ddiolch i Gaerdydd am adael i Gethin ymuno gyda ni ac ‘rwy’n ddyledus i’r Harlequins a Chaerloyw hefyd am ganiatáu i Danny, Adam a TR deithio gyda ni i Japan.

“Ry’n ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr at ddod at ein gilydd i baratoi ar gyfer y daith haf bwysig hon.”

Mae Gethin Jenkins yn ail ar restr ymddangosiadau dros Gymru (129) ac yn ystod ei yrfa fe enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad bedair gwaith a thair Camp Lawn yn ogystal. Ef fydd yr hyfforddwr amddiffyn ar gyfer y daith hon. Bu’n gwneud y gwaith yma gyda’r garfan ryngwladol rhwng Hydref 2020 a Rhagfyr 2022.

Mae Adam Jones a Danny Wilson wedi derbyn sêl bendith eu clwb – yr Harlequins – i ymgymryd â’r secondiad hwn gyda Chymru ar gyfer y daith i Japan.

Ymgynghorydd sgrymio fydd Jones unwaith eto – wedi iddo wneud yr un gwaith am gyfnod yn ystod y Chwe Gwlad eleni – tra y bydd Wilson yn gyfrifol am hyfforddi’r blaenwyr ar gyfer y daith.

Yn ystod ei yrfa fel chwaraewr, fe enillodd Adam Jones 95 o gapiau a thair Camp Lawn.

Fel hyfforddwr, fe enillodd Danny Wilson y Cwpan Her gyda Chaerdydd (2017/18) ac fe arweiniodd dîm o Dan 20 Cymru i Rownd Derfynol Pencampwriaeth y Byd. Rhwng 2018-2020 bu’n gyfrifol am hyfforddi blaenwyr prif dîm rhyngwladol Yr Alban. Bu hefyd yn Brif Hyfforddwr gyda Glasgow cyn ymuno â Chaerlŷr ym mis Ionawr 2023 – fel ymgynghorydd am weddill y tymor hwnnw.

Fe enillodd T.Rhys Thomas 27 o gapiau dros Gymru – ac fe gynrychiolodd glybiau Caerdydd, Wasps a’r Dreigiau. Mae’n dychwelyd i dîm hyfforddi ei wlad fel îs-hyfforddwr y blaenwyr gyda chaniatád ei glwb, Caerloyw.

Bydd y prawf cyntaf yn Stadiwm Mikuni World ar y 5ed o Orffennaf – yn gweld Cymru’n dychwelyd i ddinas Kitakyushu – sef cartref y garfan wrth baratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn 2019.

Wythnos yn ddiweddarach bydd y daith yn dod i ben gyda’r ail brawf yn Stadiwm Noevir, Kobe ar y 12fed o Orffennaf.

Mae gan Gullivers Sports Travel – partneriaid teithio swyddogol Undeb Rygbi Cymru – becynnau teithio unigryw ar gyfer y daith haf hon i Japan. Dylai cefnogwyr sydd â diddordeb ymweld â gwefan y cwmni am yr holl fanylion.

Cofiwch hefyd y gallwch wylio Japan yma yng Nghymru’n ddiweddarach eleni yn ystod Cyfres yr Hydref. Bydd tocynnau ar werth trwy Glybiau Undeb Rygbi Cymru heddiw (Mai 20fed) gyda gostyngiad arbennig o £5 ar gael ar gyfer holl docynnau ym mhob categori.

Byddwch yn barod ar gyfer Hydref hudolus o rygbi rhyngwladol – gyda thocynnau ar gael o £10 yn unig. Dewch o hyd i’ch clwb rygbi lleol yma: Welsh Rugby Union | Club & Community | Club Finder

Related Topics