Mae Prif Hyfforddwr y Llewod, Andy Farrell wedi enwi ei garfan o 38 ar gyfer y daith i Awstralia’r haf hwn – sy’n cynnwys dau Cymro.
Jac Morgan a Tomos Williams sydd wedi eu dewis i deithio i Awstralia. Hon fydd taith gyntaf y ddau Gymro gyda’r Llewod.
Gan gynnwys gêm baratoadol yn erbyn Ariannin yn Nulyn, bydd y Llewod yn chwarae cyfanswm o 10 o gemau gan gynnwys y profion yn Brisbane, Melbourne a Sydney.
Yn ogystal â’r Cymry, mae Andy Farrell wedi dewis 15 Gwyddel, 8 Albanwr ac 13 o Saeson sy’n cynnwys 21 o flaenwyr ac 17 o olwyr.
Maro Itoje o Loegr sydd wedi ei ddewis yn gapten ar y garfan.
Dywedodd Andy Farrell: “Mae’n amhosib egluro’n iawn beth mae cynrychioli’r Llewod yn ei olygu i chwaraewyr ac mae’r fraint a’r cysylltiad hwnnw rhwng pob un sydd wedi cael eu dewis ar gyfer y daith hon am barhau am weddill eu dyddiau.”
Ychwanegodd y Capten, Maro Itoje: “Mae cael fy newis yn gapten yn fraint aruthrol – yn enwedig o ystyried yr unigolion anhygoel sydd wedi gwneud y swydd o fy mlaen i. Fe wnaf bopeth o fewn fy ngallu i wneud yn siwr y cawn ni lwyddiant ar y daith.”
Dywedodd Ieuan Evans, deithiodd deirgwaith gyda’r Llewod ac sy’n Rheolwr y Daith eleni: “Yn syml, mae hwn yn gyfle i bob un o’r chwaraewyr sydd wedi cael eu dewis i wireddu eu breuddwydion. Llongyfarchiadau twymgalon i bob un sydd wedi cael eu dewis.”
Ychwanegodd Tomos Williams: “Fe gollais i ddeigryn wrth glywed fy mod wedi cael fy newis. Dyma’r uchafbwynt i fi a hoffwn ddiolch i fy nheulu am bob cefnogaeth sydd wedi fy nghalluogi i gyrraedd y pwynt yma yn fy mywyd a fy nghyrfa – sef cael fy newis i’r Llewod.”

Carfan y Llewod 2025
Blaenwyr: (21)
- Tadhg Beirne (Munster/Iwerddon)
- Ollie Chessum (Caerlŷr/Lloegr)
- Jack Conan (Leinster/Iwerddon)
- Luke Cowan-Dickie (Sale/Lloegr)
- Scott Cummings (Glasgow/Yr Alban)
- Tom Curry (Sale/Lloegr)
- Ben Earl (Saraseniaid/Lloegr)
- Zander Fagerson (Glasgow/Yr Alban)
- Tadhg Furlong (Leinster/Iwerddon)
- Ellis Genge (Bryste/Lloegr)
- Maro Itoje (Saraseniaid/Lloegr – capten)
- Ronan Kelleher (Leinster/Iwerddon)
- Joe McCarthy (Leinster/Iwerddon)
- Jac Morgan (Gweilch/Cymru)
- Henry Pollock (Northampton/Lloegr)
- Andrew Porter (Leinster/Iwerddon)
- James Ryan (Leinster/Iwerddon)
- Pierre Schoeman (Caeredin/Yr Alban)
- Dan Sheehan (Leinster/Iwerddon)
- Will Stuart (Caerfaddon/Lloegr)
- Josh van der Flier (Leinster/Iwerddon)
Olwyr: (17)
- Bundee Aki (Connacht/Iwerddon)
- Elliot Daly (Saraseniaid/Lloegr)
- Tommy Freeman (Northampton/Lloegr)
- Jamison Gibson-Park (Leinster/Iwerddon)
- Mack Hansen (Connacht/Iwerddon)
- Huw Jones (Glasgow/Yr Alban)
- Hugo Keenan (Leinster/Iwerddon)
- Blair Kinghorn (Toulouse/Yr Alban)
- James Lowe (Leinster/Iwerddon)
- Alex Mitchell (Northampton/Lloegr)
- Garry Ringrose (Leinster/Iwerddon)
- Finn Russell (Caerfaddon/Yr Alban)
- Fin Smith (Northampton/Lloegr)
- Marcus Smith (Harlequins/Lloegr)
- Sione Tuipulotu (Glasgow/Yr Alban)
- Duhan van der Merwe (Caeredin/Yr Alban)
- Tomos Williams (Caerloyw/Cymru)
Dyddiad | Lleoliad | Stadiwm | (GMT) | ||
20/06/2025 | Ariannin | Dulyn | Stadiwm Aviva | 8:00pm | |
28/06/2025 | Western Force | Perth | Stadiwm Optus | 10:45am | |
02/07/2025 | Queensland Reds | Brisbane | Stadiwm Suncorp | 10:45am | |
05/07/2025 | NSW Waratahs | Sydney | Stadiwm Allianz | 10:45am | |
09/07/2025 | ACT Brumbies | Canberra | Stadiwm GIO | 10:45am | |
12/07/2025 | Tîm dethol AWS & SN | Adelaide | Oval Adelaide | 10:15am | |
19/07/2025 | Wallabies (Prawf 1) | Brisbane | Stadiwm Suncorp | 10:45am | |
22/07/2025 | First Nations & Pasifika XV | Melbourne | Stadiwm Marvel | 10:45am | |
26/07/2025 | Wallabies (Prawf 2) | Melbourne | MCG | 10:45am | |
02/08/2025 | Wallabies (Prawf 3) | Sydney | Stadiwm Accor | 10:45am |