News

Amber i osod ei stamp yng Nghwpan y Byd

Amber Stamp-Dunstan
Amber Stamp-Dunstan

Wrth i Gwpan y Byd yn Lloegr ddynesu – mae tlws newydd ar gyfer y gystadleuaeth wedi cael ei ddadorchuddio cyn, i Loegr groesawu’r Unol Daleithiau ar gyfer y gêm agoriadol yn Sunderland ar yr 22ain o Awst.

Mae’n addas mai’r Unol Daleithiau fydd yn cymryd rhan yn yr ornest gyntaf gan mai nhw oedd enillwyr cyntaf erioed y gystadleuaeth pan gynhaliwyd Cwpan y Byd yng Nghymru ym 1991.

Mae dros 300,000 o docynnau eisoes wedi eu gwerthu ar gyfer cystadleuaeth eleni – mwy na dwbl y nifer werthwyd ar gyfer y gystadleuaeth ddiwethaf yn Seland Newydd yn 2021.

O safbwynt y Cymry, bydd Sean Lynn a’i garfan yn wynebu’r Alban yn eu gêm agoriadol yn Salford ar y 23ain o Awst – a byddant yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth wrth deithio i Awstralia i chwarae dwy gêm brawf dros yr haf. Canada a Ffiji yw’r ddwy wlad arall yng Nghrŵp B.

Daeth cadarnhad hefyd bod Amber Stamp-Dunstan wedi ei chynnwys ymhlith y 22ain aelod o dîm y dyfarnwyr ar gyfer y gystadleuaeth. Menywod yw 17 o’r swyddogion hynny – gyda’r pum dyn yn ymgymryd â dyletswyddau’r Dyfarnwr Teledu yn unig.

Dywedodd Rheolwr Dyfarnwyr Elît Undeb Rygbi Cymru, Ian Davies: “Mae’r ffaith bod Amber wedi ei dewis yn gydnabyddiaeth deilwng o’i gwaith caled a’i hagwedd gadarnhaol. Dwi wrth fy modd ei bod wedi ei dewis ar gyfer Cwpan y Byd.

“O’i hadnabod – fydd Amber ddim yn fodlon bod yn ddyfarnwr cynorthwyol yn unig yn yr hirdymor. Bydd hi’n bwriadu bod yn y canol gyda’r chwiban yn ei llaw ar gyfer cystadleuaeth 2029. Dwi’n hollol hyderus y bydd ei dawn a’i brwdrfydedd yn sicrhau y bydd hynny’n digwydd.”

Dywedodd Sally Horrox, Pennaeth Rygbi Menywod, World Rugby: “Bydd y gystadleuaeth eleni’n torri tir newydd i’r gamp a byd yn ail-ddiffinio’r posibiliadau i rygbi menywod ledled y byd.”

Related Topics