Casnewydd enillodd y gêm ddarbi fwyaf yng Ngwent ers blynyddoedd wrth iddyn nhw drechu Glyn Ebwy 27-18 o i ddod yn Bencampwyr cyntaf erioed Super Rygbi Cymru.
Yn heulwen tanbaid Stadiwm Gymunedol Ciner Glass, llwyddodd yr ymwelwyr i chwalu record gartref berffaith Gwŷr y Dur y tymor hwn – ac o dan arweiniad Seren y Gêm Jac Lloyd – hawliodd 17 o bwyntiau, fe lwyddon nhw i sgorio tri o geisiau ac ennill y Ffeinal Fawr hanesyddol hon.
Carfan gartref Jason Strange agorodd y sgorio’n gynnar wrth i Evan Lloyd lwyddo gyda’i ymdrech gyntaf o’r prynhawn tuag at y pyst wedi 8 munud o chwarae – ond yn y pendraw dyna’r unig dro i Lyn Ebwy fod ar y blaen trwy gydol yr ornest.
Efelychu camp Evan Lloyd wnaeth Jac Lloyd ar ddiwedd y chwarter agoriadol – olygodd bod cefnogwyr niferus Casnewydd yn codi llef am y tro cyntaf yn ystod y prynhawn.
Cafodd gobeithion Gwŷr y Dur ergyd ddwbl bellach o fewn cyfnod o ddau funud wedi hynny.
Yn gyntaf bu’n rhaid i’w bachwr a phrif sgoriwr ceisiau Super Rygbi Cymru, Joe Franchi adael y maes gydag anaf – a llai na munud wedi i’r capten ffarwelio, fe groesodd mewnwr Casnewydd Dafydd Buckland am gais cyntaf y prynhawn – wedi iddo fanteisio ar y bwlch lleiaf yn amddiffyn y tîm cartref.
Trosodd Jac Lloyd am yr eildro cyn i Evan Lloyd lwyddo gyda’i ail gic gosb ef o’r cyfnod cyntaf i gau’r bwlch rhwng y timau i bedwar pwynt.
Ond erbyn i chwiban Ben Breakspear ar gyfer yr egwyl gael ei chwythu, ‘roedd Casnewydd wedi sicrhau mantais o 11 o bwyntiau gan i Jac Lloyd ddawnsio’n rhy rhwydd at linell gais Glyn Ebwy a throsi cais ei hun gyda digwyddiad olaf y deugain munud agoriadol.
Roedd Glyn Ebwy ar ei hôl hi o 16 o bwyntiau ar yr egwyl yn erbyn Llanymddyfri yn y rownd flaenorol, ac fe gadwon nhw’r ffydd unwaith eto ar ddechrau’r ail hanner heddiw.
Wedi cyfnod o bwyso cyson gan y blaenwyr yng nghysgod pyst Casnewydd ym mhum munud agoriadol yr ail gyfnod, fe ddaeth cic letraws Gruff Tough o hyd i ddwylo diogel yr asgellwr Ewan Bowden – diriodd gais cyntaf y tîm cartref i gau’r bwlch i chwephwynt.
Cyn i’r tîm cartref gael cyfle arall i roi mwy o wynt yn eu hwyliau, fe gasglodd Carwyn Penny ei gic ei hun ac fe redodd heibio Tough i dirio trydydd cais yr ymwelwyr yn y gornel. Cododd Jac Lloyd ei gyfanswm personol i 14 pwynt gyda’i drosiad campus o’r ystlys.

Ond gwrthod ildio wnaeth Glyn Ebwy ac fe fanteisiodd y clo Curtis Gregory i’r eithaf ar flerwch yn amddiffyn Casnewydd i hawlio ail gais ei dîm wedi 55 munud o chwarae.
Yn dilyn trosiad syml Evan Lloyd, un sgôr oedd yn gwahanu’r ddau dîm unwaith yn rhagor.
Fe olygodd pumed cic lwyddiannus Jac Lloyd wedi bron i awr o chwarae bod yn rhaid i Lyn Ebwy sgorio ddwywaith unwaith yn rhagor – ac eiliadau wedi hynny ‘roedd asgellwr Casnewydd David Richards yn credu ei fod wedi hawlio’r fuddugoliaeth i fechgyn Tyron Morris – dim ond i’r tîm dyfarnu benderfynu bod y bas olaf yn y symudiad gan Jac Lloyd ymlaen o drwch blewyn.
Cafodd bechgyn Glyn Ebwy wir gyfle i gipio’r Ffeinal Fawr o’r fflamau pan ddangoswyd cerdyn melyn i Josh Skinner – olygodd bod gan y tîm cartref ddyn o fantais am y chwe munud olaf.
Ond er holl ymdrechion dynion dewr Gwŷr y Dur – fe lwyddodd amddiffyn trefnus a digyfaddawd Casnewydd i wrthsefyll yr holl bwysau i gipio buddugoliaeth hanesyddol – olygodd mai nhw yw Pencampwyr cyntaf erioed Super Rygbi Cymru.
Am ffordd briodol i ddathlu 150fed pen-blwydd Clwb Rygbi Casnewydd ac i dalu teyrnged i gyn Lywydd y clwb, Brian Jones, fu farw’r mis diwethaf yn 89 oed.
Canlyniad: Glyn Ebwy 18 Casnewydd 27
Wedi’r chwiban olaf, dywedodd Capten Casnewydd Ben Roach: “Wedi i ni golli yn ffeinal yr Uwch Gynghrair yn erbyn Llanymddyfri’r tymor diwethaf – mae’r teimlad o ennill heddiw’n hollol wych. Mae’r ffaith ein bod wedi ennill heddiw mewn gêm ddarbi hefyd yn gwneud y fuddugoliaeth hyd yn oed yn fwy melys.”
Ychwanegodd Seren y Gêm (Cwmni Coffi Reviva) Jac Lloyd: “Ro’dd y bois i gyd yn anhygoel heddiw – yn enwedig y blaenwyr yn hwyr yn y gêm. Ma’n rhaid dweud hefyd bod Glyn Ebwy wedi chwarae’n dda’r prynhawn ‘ma ac fe allen nhw fod wedi ennill – ond diolch i’r drefn mai ni aeth â hi.”
