Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod 2025. Ail-drefnu gêm Yr Eidal v Cymru i ddydd Sul y 27ain o Ebrill.
Yn dilyn marwolaeth trist diweddar y Pab Francis, mae Bwrdd Rheoli’r Chwe Gwlad, Undeb Rygbi’r Eidal (FIR) ac Undeb Rygbi Cymru wedi penderfynu’n unfrydol i symud y gêm ryngwladol rhwng Menywod Yr Eidal a Chymru o ddydd Sadwrn y 26ain o Ebrill i ddydd Sul y 27ain o’r mis.
Gwnaed y penderfyniad yn dilyn cais gan Lywydd Pwyllgor Olympaidd Yr Eidal, Giovanni Malagò i ohirio pob digwyddiad chwaareon yn Yr Eidal ddydd Sadwrn i gydfynd gydag angladd y Pab Francis.
O ganlyniad, bydd yr ornest rhwng Yr Eidal a Chymru ym Mhumed Rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 bellach yn cael ei chynnal ddydd Sul y 27ain o Ebrill am 12.30PM amser lleol yn y Stadio Sergio Lanfranchi yn Parma.
Fel arwydd o barch, bydd munud o dawelwch yn digwydd cyn y gêm.
Bydd y tocynnau gwreiddiol yn dal yn ddilys ar gyfer y gêm ddydd Sul – ond os oes gan gefnogwyr Cymru unrhyw gwestiwn pellach am y newid – gellir cysylltu gydag Undeb Rygbi’r Eidal YMA
Mae trefniadau wedi eu cadarnhau i ddarlledu’r gêm ddydd Sul ac mae’r wybodaeth berthnasol am y darllediad i’w chael yn adran Where To Watch o wefan Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.