Bydd Undeb Rygbi Cymru’n gwahodd ceisiadau gan y clybiau rygbi proffesiynol a nifer cyfyngedig o Brifysgolion am yr hawl i ofalu am y ddau dîm fydd yn cynrychioli Cymru yn yr Her Geltaidd y tymor nesaf. Mae’r datblygiad newydd a chyffrous hwn yn gydnabyddiaeth bellach o’r twf yn rygbi menywod ar drothwy Cwpan y Byd […]
Bydd Undeb Rygbi Cymru’n gwahodd ceisiadau gan y clybiau rygbi proffesiynol a nifer cyfyngedig o Brifysgolion am yr hawl i ofalu am y ddau dîm fydd yn cynrychioli Cymru yn yr Her Geltaidd y tymor nesaf.
Mae’r datblygiad newydd a chyffrous hwn yn gydnabyddiaeth bellach o’r twf yn rygbi menywod ar drothwy Cwpan y Byd 2025 – fydd yn digwydd yn Lloegr dros gyfnod yr haf.
Mae Undeb Rygbi Cymru’n cynnig y cyfle i’r Scarlets, Caerdydd, y Gweilch a’r Dreigiau i chwarae rhan allweddol yn natblygiad rygbi menywod wrth gydweithio gyda phrifysgol sydd eisoes wedi ennill ei phlwyf yng nghyd-destun camp y merched a’r menywod.
Bydd y ddau dîm newydd yn cymryd lle Brython Thunder a Gwalia Lightning yn yr Her Geltaidd – sy’n cynnig llwyfan gystadleuol i chwaraewyr o’r Alban, Iwerddon a Chymru wrth iddynt anelu at gamu i’r llwyfan rhyngwladol llawn.
Bydd y clybiau proffesiynol yn gorfod ymgeisio am ‘Drwydded yr Her Geltaidd’ a chyfrannu hanner y gost o redeg eu tîm am gyfnod o dair blynedd – hyd at 2028.
Disgwylir i’r gost weithredol yma fod yn gyfanswm o £200,000 ar gyfer pob tim bob tymor.
Bydd Undeb Rygbi Cymru’n cyfrannu hanner y gost honno.
Unwaith i’r penderfyniad gael ei wneud am y ddwy drwydded lwyddiannus – bydd Undeb Rygbi Cymru’n penodi Prif Hyfforddwyr newydd ar gyfer y timau hynny a bydd disgwyl i’r timau newydd gynnig cefnogaeth ymarferol o safbwynt chwaraewyr, staff, adnoddau meddygol, adnoddau ymarfer, marchnata a chyfleoedd masnachol.
Bydd y ddau gynnig llwyddiannus yn cynnig gweledigaeth a gweithredoedd ymarfeol a chynaliadwy o safbwynt gêm y merched a’r menywod yng Nghymru fydd yn gydnaws ag egwyddorion y strategaeth newydd ‘Cymru’n Un’.
Bydd angen datgan diddoedeb ffurfiol i ymgeisio am ‘Drwydded yr Her Geltaidd’ erbyn ddydd Gwener yr 2il o Fai cyn i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi’r ddau ymgeisydd llwyddiannus ym mis Gorffennaf 2025.
Dywedodd Pennaeth Rygbi Merched a Menywod Undeb Rygbi Cymru, Belinda Moore:” Mae hon yn eiliad allweddol i ddatblygiad y gamp yma yng Nghymru ac mae’n cadarnhau ymrwymiad yr Undeb i ddatblygu a thyfu’r gêm yma.”