News

Trydedd gêm gyfartal i ferched D18 Cymru yng Ngŵyl y Chwe Gwlad

Crystal James scored two tries for Wales U18 in their draw with Ireland

Daeth ymgyrch Merched D18 Cymru yng Ngŵyl y Chwe Gwlad i ben gyda’u trydedd gêm gyfartal o’r gystadleuaeth wrth i’r ornest orffen 24-24 yn erbyn Iwerddon yng Ngholeg Wellington.

‘Roedd eu pedair gêm gyntaf yn y gystadleuaeth wedi bod yn 35 munud yr un o hyd ac wedi colled drom yn erbyn Ffrainc yn eu gornest agoriadol – llwyddwyd i guro’r Alban o 21-7 – cyn profi dwy gêm ddi-sgôr ar ail ddiwrnod y cystadlu’n erbyn Lloegr a’r Eidal.

‘Roedd gemau olaf pob un o’r timau’n y gystadleuaeth yn 70 munud o hyd a dim ond 5 munud gymrodd hi i Crystal James agor cyfrif Cymru gyda’i hyrddiad nerthol at y llinell gais.

Dim ond ddau funud wedi hynny ‘roedd y Gwyddelod ar y blaen wedi i’r clo Olivia McKinley daro cic Ffion Williams i lawr ac ymateb yn gyntaf i’r bêl rydd – gan gynnig cyfle hawdd i Siofra Hession ychwanegu’r trosiad.

Wedi bron i 20 munud o chwarae – fe hawliodd Crystal James ei hail gais o’r prynhawn wrth i’r prop garlamu o 30 metr gan ochrgamu heibio amddiffyn Iwerddon i roi Cymru’n ôl ar y blaen.

Llwyddodd Williams gyda’r trosiad y tro hwn i roi mantais o 12-7 i’r Crysau Cochion.

Dylai’r Cymry fod wedi sgorio eu trydydd cais gyda 10 munud o’r hanner cyntaf ar ôl – ond wrth i’r asgellwr Lily Foscolo geisio tirio’r bêl – fe lwyddodd y Crysau Gwyrddion i’w gwthio hi dros yr ystlys ar yr eiliad olaf.

Hanner Amser: Cymru 12 Iwerddon 7

Cyn y gêm heddiw – ‘roedd y Gwyddelod wedi curo Lloegr a’r Eidal a cholli’n erbyn Ffrainc a’r Alban yn eu hymgyrch nhw yng Ngholeg Wellington. Roedd y blaen-asgellwr Lucia Dickinson yn un o sgorwyr Iwerddon yn erbyn y Saeson – ac wedi chwe munud o’r ail gyfnod, fe groesodd hi yng nghysgod y pyst am ail gais ei gwlad yn erbyn y Cymry.

Yn dilyn ail drosiad Hession – ‘roedd Iwerddon yn ôl ar y blaen am yr eildro.

Dim ond am ddeng munud y llwyddodd y Gwyddelod i gadw’u gafael ar y flaenoriaeth honno gan i’r eilydd o fewnwr, Lily Hawkins fanteisio ar waith caib a rhaw ei blaenwyr i dirio trydydd cais y Cymry. Llwyddodd Williams gyda’r trosiad hefyd i agor bwlch o bum pwynt rhwng y timau.

I’r dorf oedd yn mwynhau heulwen Coleg Wellington, doedd hi’n fawr o syndod gweld y Gwyddelod yn taro’n ôl am y trydydd tro pan groesodd y cawr Diana Izekor o dalaith Leinster am drydydd cais Iwerddon – ond gan i Siofra Hession fethu am y tro cyntaf gyda’i hymdrech at y pyst, ‘roedd hi’n gwbl gyfartal 19-19 gydag ychydig dros 10 munud yn weddill.

Y Cymry darodd yr ergyd nesaf – pan hyrddiodd yr eilydd o fachwr, Shanelle Williams dros y gwyngalch gyda 7 munud ar ôl – ond gan i Ffion Williams fethu â’r trosiad – byddai trosgais wedi cipio’r fuddugoliaeth i’r Gwyddelod.

Gan i’r eilydd Erin Jones dreulio’r munudau olaf yn y cell cosb – fe gafwyd diweddglo hynod o gyffrous i’r gêm. Gyda symudiad olaf yr ornest – fe hawliodd Rebecca Cahill bedwerydd cais y Gwyddelod a byddai cic yr eilydd Heidi Lyons wedi cipio’r fuddugoliaeth i Iwerddon o dan drwynau’r Cymry.

Er i anel Lyons fod yn gywir – doedd dim digon o nerth ar ei chic – olygodd ei bod hi’n aros yn gwbl gyfartal ar y chwiban olaf.

Diweddglo cyffrous felly i ymdrech carfan Siwan Llillicap yng Ngŵyl y Chwe Gwlad – un golled, un fuddugoliaeth a thair gêm gyfartal.

Sgôr Terfynol: Cymru 24 Iwerddon 24

Cymru D18: Megan Jones; Beatrice Morgan, Katie Johnson, Isla McMullen (capten), Lily Foscolo; Ffion Williams, Seren Lockwood; Crystal James, Taufa Tuipulotu, Evie Hill, Jorja Aiono, Tegan Bendall, Charlie Williams, Amelia Bailey, Chiara Pearce
Eilyddion: Shanelle Williams, Georgia Morgan, Ciara Taylor, Erin Jones, Chloe Roblin, Lily Hawkins, Sienna McCormack, Saran Jones

Related Topics