Fe ddangosodd Tîm D18 Cymru wir gymeriad i ddal eu gafael ar eu buddugoliaeth o 41-39 yn erbyn Yr Eidal – sy’n golygu bod carfan Richie Pugh wedi ennill pob un o’u tair gêm yn ystod Gŵyl y Chwe Gwlad.
Llwyddodd yr Eidalwyr i guro’r Crysau Cochion mewn gêm baratoadol ar gyfer y gystadleuaeth hon – ond er i’r ddau dîm sgorio pum cais yr un – y Cymry aeth â hi’r tro hwn yn Vichy.
‘Roed y fuddugoliaeth yn edrych yn eithaf cyfforddus i Gymru gan bod ganddynt fantais o 21 pwynt wedi 49 munud o chwarae – ond er i’r Eidal orffen yr ornest yn arbennig o gryf – methiant fu eu holl ymdrechion i gau’r bwlch yn llwyr.
Yn dilyn eu llwyddiannau yn erbyn Iwerddon a Georgia, ‘roedd y capten Cerrig Smith a’i dîm yn haeddu ennill hon hefyd er i bac cydnerth eu gwrthwynebwyr achosi problemau lu iddyn nhw.
Amlygwyd hynny pan ddaeth yr eilydd o fachwr Ettore Dinarte i’r maes – ac fe sgoriodd dri chais tebyg i’w gilydd wrth i’w dîm geisio gwneud y gorau o’u goruchafiaeth yn y leiniau a’r sgarmesi symudol.
Ar y llaw arall, ‘roedd y Cymry’n fygythiol trwy gydol y gêm wrth ymosod ac fe lywiodd y maswr Carwyn Leggatt- Jones y chwarae’n hynod aeddfed. ‘Roedd ei gicio gosod yn allweddol yn y pendraw hefyd – gan iddo lwyddo saith o weithiau wrth hawlio 18 pwynt ei hun.
Mae gan Leggatt-Jones, sy’n astudio yng Ngholeg Llanymddyfri ar hyn o bryd, flwyddyn arall i chwarae ar y lefel yma – ac felly cofiwch yr enw.
Dwy gic gywir Carwyn Leggatt-Jones agorodd y sgorio yn Vichy cyn i’w 50-22 osod y sylfaen i Kai Jones o’r Scarlets groesi am y cyntaf o 10 cais y prynhawn. Yn dilyn y trosiad ‘roedd y Cymry ar y blaen o 10 pwynt wedi dim ond 7 munud o chwarae.
Wedi hynny fe ddechreuodd yr Azzurri osod eu hawdurdod yn y chwarae gosod ac wedi i sgrym Cymru gael ei chosbi bedair gwaith – llwyddodd y bachwr Jacopo De Rossi i agor cyfrif ei wlad.
Yn dilyn trosiad Francesco Braga a chic gosb gampus arall ganddo – ‘roedd pethau’n gwbl gyfartal.
Yr wythwr Noah Williams symbylodd ail gais y Cymry – wrth i’w rediad grymus roi ei dîm ar y droed flaen yn 22ain Yr Eidal. Cydweithiodd Tiaan Hall, George Leyland ac Alfie Prygodzicz yn effeithiol wedyn i greu’r lle yr oedd ei angen ar Leggatt-Jones i groesi. Parhau i gicio’n gywir wnaeth y ddau faswr am weddill y cyfnod cyntaf – olygodd bod bechgyn Richie Pugh ar y blaen o 20-13 ar yr egwyl.
Y Cymry ddechreuodd yr ail gyfnod gryfaf ac yn dilyn pas arbennig gan y prop Leyland – crëwyd lle i Jack Hoskins Bailey Cutts arweiniodd at sgôr cofiadwy i Noah Morgan.
Yn dilyn chweched llwyddiant Leggatt-Jones o’i chwe ymdrech at y pyst, ‘roedd y Cymry ar y blaen o 34-14.
Rhoddodd y cyntaf o dri chais Dinarte hyder i’r Azzurri – ond yn union wedi’r ail-ddechrau, manteisiodd Bailey Cutts ar ansicrwydd a diffyg cyfathrebu’r Eidalwyr i redeg yn glir at y llinell gais.
Yn dilyn seithfed trosiad gwych Leggatt Jones, ‘rodd y Cymry wedi sefydlu 23 pwynt o fantais wedi 49 munud o chwarae.
Yr Eidal reolodd y chwarae’n llwyr wedi hynny ac yn dilyn ail gais Dinarte, croesodd yr eilydd o fewnwr, Mattia Andretti am bedwerydd cais ei dîm.
Llwyddodd Dinarte i gau’r bwlch ymhellach gyda’i drydydd cais yn hwyr yn yr ornest ac wedi trosiad Braga – dim ond deubwynt oedd yn gwahanu’r ddwy wlad.
Ond er holl ymdrechion yr Azzurri – fe brofodd amddiffyn y Crysau Cochion yn ddigon cryf i sicrhau eu trydedd buddugoliaeth o Ŵyl y Chwe Gwlad 2025.
Cymru D18 (v Yr Eidal)
15 Rhys Cummings (Caerdydd)
14 Noah Morgan (Dreigiau)
13 Bailey Cutts (Caerdydd)
12 Jack Hoskins (Gweilch)
11 Rhys Cole (Dreigiau)
10 Carwyn Leggat-Jones (Scarlets)
9 Carter Pritchard (Dreigiau)
1 George Leyland (Bryste)
2 Tiaan Hall (Dreigiau)
3 Nathan Davies (Scarlets)
4 Kai Jones (Scarlets)
5 Osian Williams (Bryste)
6 Cerrig Smith (Dreigiau, capten)
7 Alfie Prygodzicz (Caerdydd)
8 Noah Williams (Bryste)
Eilyddion
16 James Talami (Dreigiau)
17 Dylan Barratt (Caerdydd)
18 Jayden Maybank (Gweilch)
19 Gabe Williams (Caerdydd)
20 Tiehi Chatham (Dreigiau)
21 Luca Woodyatt (Caerloyw)
22 Lloyd Lucas (Caerdydd)
23 Jack Harrison (Caerfaddon)
25 Brogan Leary (Dreigiau)
26 Morgan Crew (Academi Swydd Efrog)