Daeth ymgyrch Chwe Gwlad gyntaf Sean Lynn fel Prif Hyfforddwr Cymru i ben yn siomedig iawn wrth i’r Eidal lwyr reoli’r ail hanner i sicrhau buddugoliaeth hanesyddol o 44-12 yn heulwen Parma.
Roedd y Cymry ar y blaen o ddeubwynt wrth droi – ond yna fe sgoriodd yr Azzurre 34 o bwyntiau heb ymateb.
Mae’r bumed colled hon o’r bron yn golygu mai Cymru sy’n gorffen ar waelod tabl Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 a dyma’r tro cyntaf erioed i’r Crysau Cochion golli pob un o’u pum gêm yn y gystadleuaeth mewn un tymor.
Cyn y gic gyntaf yn y Stadio Sergio Lanfranchi ‘roedd disgwyl gornest agos gan bod pum o’r chwe gêm ddiwethaf rhwng y ddwy wlad wedi gorffen gyda phedwar pwynt neu lai’n gwahanu’r timau – gan gynnwys y fuddugoliaeth yn amser yr amen i Gymru yn Stadiwm Principality’r llynedd.
Yn anffodus o safbwynt Cymreig – nid felly fu hi heddiw wrth i’r Eidal lwyr reoli’r ail hanner – sicrhaodd eu hail fuddugoliaeth o’r Chwe Gwlad eleni.
Doedd yr Eidalwyr heb brofi buddugoliaeth yn y Bencampwriaeth ar eu tomen eu hunain ers y drydedd rownd o gemau yn ôl yn 2023 pan gurwyd y Gwyddelod.
Ar eu hymweliad diwethaf â dinas hyfryd Parma yng ngornest olaf y tymor hwnnw – fe enillodd Hannah Jones a’i thîm o 36-10 ac wedi 9 munud o chwarae heddiw ‘roedd yr ymwelwyr ar y blaen – wedi i Kate Williams fanteisio ar gydweithio ei chyd-flaenwyr o sgarmes symudol – i dirio ei thrydydd cais o’r Bencampwriaeth y tymor hwn.
Ond dim ond am 8 munud y llwyddodd y Cymry i ddal eu gafael ar eu mantais – wedi i flaenwyr Yr Eidal arddangos eu sgiliau trafod – a’r mewnwr Sofia Stefan oedd yno i agor cyfrif yr Azzurre am y prynhawn – wnaeth gwaith Michela Sillari o drosi’n hynod syml.
Wedi i’r canolwr – oedd yn gwisgo mwgwd diogelwch amryliw – lwyddo â’i chic gosb ar ddechrau ail chwarter yr ornest – ‘roedd gan y Crysau Gleision fantais o 10-5.
Ond erbyn yr egwyl, y Cymry oedd ar y blaen am yr eildro, wedi i amynedd yr wyth blaen gynnig y cyfle i Gwenllian Pyrs blymio dros y llinell gais o ychydig fodfeddi. Wedi i Keira Bevan lwyddo gyda’r trosiad hwnnw – ‘roedd gan garfan Sean Lynn fantais haeddiannol o ddeubwynt wrth droi o ystyried eu bod wedi mwynhau 66% o’r meddiant yn ystod y deugain munud agoriadol.
Does dim amheuaeth mai’r Eidal lwyr reolodd yr ail gyfnod – ac fe gawsant eu gwobrwyo am eu goruchafiaeth yn gyntaf pan holltwyd y pyst am y trydydd tro gan gic gosb Sillari – olygodd bod yr Azzurre’n nôl ar y blaen o bwynt. Doedd dim ffordd yn ôl i’r Cymry wedi hynny.
Agorwyd y bwlch rhwng y timau i 8 o bwyntiau wedi 53 munud wedi i’r eilydd o asgellwr Francesca Granzotto hawlio’i chais cyntaf o’r prynhawn yn gelfydd a chorfforol – wrth iddi lwyddo tirio o drwch blewyn – er holl ymdrechion Carys Cox ac Alex Callender i’w hatal. Hwn oedd y cyntaf o bum cais ei thîm yn ystod yr ail hanner. Llwyddodd Sillari gyda’i chic o’r ystlys.
Gwywo ymhellach wnaeth gobeithion y Cymry wedi hynny yng ngwres llethol Parma – wedi i’r prop Silvia Turani groesi am drydydd cais ei thîm o’r ornest wedi bron i awr o chwarae. Parhau wnaeth perffeithrwydd Sillari gyda’i chicio unwaith eto.
Parhau wnaeth rheolaeth gadarn Yr Eidal o’r ornest hefyd ac wedi ychydig dros awr o chwarae, ‘roedd y tîm cartref yn dathlu sicrhau pwynt bonws wrth i’r cefnwr Minuzzi groesi’r gwyngalch yn gyfforddus. Yr unig gysur i’r Crysau Cochion oedd y ffaith i ymdrech Sillari i ychwanegu’r ddeubwynt fethu â hollti’r pyst.
Rhwbiwyd halen hwyr pellach i friwiau’r Cymry wrth i’r eilydd Natalia John weld cerdyn melyn am dacl anghyfreithlon – ac wrth i’r clo eistedd ar yr ystlys – ‘roedd gan Granzotto ddigon o amser a digon o le i groesi yn y gornel am yr eildro.
Gyda symudiad olaf yr ornest hon – hawliodd yr asgellwr Aura Muzzo chweched cais ei thîm i sicrhau record o fuddugoliaeth i’r Azzurre yn erbyn y Crysau Cochion – a do fe ychwanegodd Sillari’r trosiad i hawlio ei 14eg pwynt hi o’r prynhawn.
Canlyniad: Yr Eidal 44 Cymru 12
Wrth baratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn Lloegr fis Awst a Medi bydd gan Sean Lyn a’i garfan ddwy gêm baratoadol bwysig dros yr haf, pan fydd Cymru’n wynebu Awstralia mewn gemau prawf yn Brisbane ar y 26ain o Orffennaf a Sydney ar Awst y 1af.
Cymru: Jasmine Joyce-Butchers; Lisa Neumann, Hannah Jones (capt), Courtney Keight, Carys Cox; Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones, Donna Rose, Abbie Fleming, Gwen Crabb, Kate Williams, Bethan Lewis, Georgia Evans.
Eilyddion: Carys Phillips, Maisie Davies, Jenni Scoble, Natalia John, Alex Callender, Sian Jones, Hannah Bluck, Catherine Richards.