Colli eu pedwaredd gêm o Bencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 fu hanes Menywod Cymru wrth i Iwerddon ennill o 40-14 yn heulwen Rodney Parade.
Mae’r Gwyddelod wedi codi i’r pumed safle ymhlith detholion y byd ers i Scott Bemand gymryd yr awennau ddwy flynedd yn ôl – ac fe olygodd chwe chais blaenwyr ei dîm heddiw bod y Cymry bellach ond wedi ennill 3/14 o’u gemau diwethaf yn eu herbyn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Bu’n rhaid i Hannah Jones a’i thîm addasu eu tactegau rywfaint cyn y gic gyntaf gan i anaf i goes Kayliegh Powell olygu mai Lleucu George ddechreuodd y gêm yn safle’r maswr – ond cic bwt George wedi 6 munud o chwarae arweiniodd at gais Carys Cox – wedi i Amee-Leigh-Costigan fethu â chasglu’r bêl rydd.
Llwyddod Keira Bevan gyda’r trosiad er mwyn rhoi’r dechrau delfrydol i’r tîm cartref – ond fe drödd y llanw o blaid yr ymwelwyr wedi hynny.
Fe gurodd y Gwyddelod Seland Newydd yn y WXV1 y llynedd ac felly doedd hi’n fawr o syndod eu gweld yn unioni pethau wrth i chwarter cynta’r ornest ddirwyn i ben.
Yn dilyn bylchiad Stacey Flood a rhediad nerthol Aoife Wafer – gwaith hawdd oedd gan y prop Linda Djougang o gamu dros y gwyngalch. Yn dilyn trosiad Dannah O’Brien ‘roedd hi’n 7-7.

‘Roedd wyth blaen Iwerddon yn drefnus a grymus trwy gydol yr ornest – ac wedi cyfnod helaeth o guro ar ddrws y Cymry, fe groesodd yr wythwr Aoife Wafer am ail gais y Gwyddelod gyda 10 munud o’r cyfnod cyntaf ar ôl. Gwaith hawdd oedd gan O’Brien i droi’r cais yn drosgais am yr eildro.
Fy dynnwyd y gwynt rywfaint o hwyliau Iwerddon gyda 4 munud o’r hanner cyntaf ar ôl wrth i’r maswr dylanwadol Dannah O’Brien gael ei danfon i’r cell cosb am dacl beryglus ar Alex Callender – ond fe darodd y pedwar chwaraewr ar ddeg ergyd sylweddol i obeithion y Cymry wedi i gloc y cyfnod cyntaf droi’n goch. Unwaith eto, grym y blaenwyr oedd yn gyfrifol am eu trydydd cais a’r clo Dorothy Wall hawliodd y sgôr allweddol hwnnw.
Gydag O’Brien ar yr ystlys – Enya Breen ychwanegodd y ddeubwynt i roi matais o 21-7 i Iwerddon ar yr egwyl.
Er mwyn cael unrhyw obaith o lusgo’u hunain yn ôl i mewn i’r ornest, ‘roedd angen i’r Cymry sgorio’n gyntaf wedi troi – ond dim ond 3 munud wedi’r ail-ddechrau – gwthiwyd Dorothy Wall dros y llinell gais am yr eildro – gan sicrhau’r pwynt bonws a’r fuddugoliaeth i bob pwrpas i’r Gwyddelod.
Gan bod y Crysau Cochion wedi gorfod taclo bron i ddwywaith yn amlach na’u gwrthwynebwyr yn ystod 53 munud cyntaf y gêm – ‘roedd hi bron yn anorfod pan efelychodd Linda Djougang gamp Wall – wrth dorri drwy fur amddiffynnol y Cymry am yr eildro i dirio 5ed cais ei gwlad.
Fe gafodd y dorf swmpus o 3,568 rwybeth i floeddio amdano wedi bron i awr o chwarae. Doedd Hannah Bluck ddim yng ngharfan y gêm rai oriau cyn y chwiban gyntaf – ond funud wedi iddi gamu i’r maes fe hawliodd hi ail gais Cymru o’r prynhawn.
Parhau i chwarae’n drefnus ac effeithiol wnaeth y Gwyddelod wedi hynny – ac wedi i Seren y Gêm, Aoife Wafer benderfynu ymosod i lawr yr ochr dywyll o sgrym – hi oedd y drydedd i dirio ddwywaith dros ei gwlad yng Nghasnewydd. Yn dilydd pedwerydd trosiad O’Brien o’r prynhawn, ‘roedd Iwerddon wedi cyrraedd deugain pwynt.
Canlyniad haeddiannol a chyfforddus i Iwerddon a bydd gan Gymru un cyfle arall i hawlio buddugoliaeth yn y Bencampwriaeth eleni ddydd Sadwrn nesaf wrth i Sean Lynn a’i garfan deithio i Parma i wynebu’r Eidal.
Cymru v Iwerddon
Jasmine Joyce (Bryste), Lisa Neumann (Harlequins), Hannah Jones (Capten, Hartpury/Caerloyw), Courtney Keight (Bryste), Carys Cox (Ealing), Lleucu George (Hartpury/Caerloyw), Keira Bevan (Bryste); Gwenllian Pyrs (Sale), Kelsey Jones (Hartpury/Caerloyw), Jenni Scoble (Gwalia Lightning), Abbie Fleming (Harlequins), Georgia Evans (Saraseniaid), Kate Williams (Hartpury/Caerloyw), Bethan Lewis (Hartpury/Caerloyw), Alex Callender (Harlequins)
Eilyddion: Carys Phillips (Harlequins), Maisie Davies (Gwalia Lightning), Donna Rose (Saraseniaid), Natalia John (Brython Thunder), Alaw Pyrs (Gwalia Lightning), Sian Jones (Gwalia Lightning), Hannah Bluck (Brython Thunder), Catherine Richards (Gwalia Lightning).Iwerddon: Stacey Flood; Anna McGann, Aoife Dalton, Enya Breen, Amee-Leigh-Costigan; Dannah O’Brien, Molly Scuffil-McCabe; Siobhán McCarthy, Neve Jones, Linda Djougang; Ruth Campbell, Dorothy Wall, Brittany Hogan, Edel McMahon, Aoife Wafer
Eilyddion: Clíodhna Moloney, Sadhbh McGrath, Christy Haney, Fiona Tuite, Claire Boles, Emily Lane, Eve Higgins, Vicky Elmes Kinlan