Mae Undeb Rygbi Cymru’n falch i gyhoeddi bod Dave Reddin wedi ei benodi’n Gyfarwyddwr Rygbi a Pherfformiad Elît URC.
Mae gan Reddin dros 30 o flynyddoedd o brofiad yn y maes arbenigol hwn ac mae ei waith wedi esgor ar lwyddiannau niferus yn y byd rygbi, pêl-droed a’r Gemau Olympaidd.
Fe ddechreuodd ei yrfa yn y byd rygbi ym 1996 pan benodwyd ef yn Hyfforddwr Ffitrwydd gyda Chaerlŷr. Gan iddo greu argraff ffarfriol yno – bu’n aelod o dimau rheoli Lloegr pan enillon nhw Gwpan y Byd yn 2003 ac yna’r Llewod ar eu taith i Seland Newydd yn 2005.
Wedi hynny, bu’n Bennaeth Gwasanaethau Perfformiad y Gymdeithas Olympaidd Brydeinig ar gyfer Gemau’r Gaeaf yn Vancouver yn 2010 ac yna Gemau’r Haf yn Llundain yn 2012.
Fe weithiodd Dave Reddin hefyd gyda Chymdeithas Bêl-droed Lloegr am gyfnod o chwe blynedd – arweiniodd at un o’r cyfnodau mwyaf cystadleuol a llwyddiannus yn eu hanes. Fe osododd y gwaith hwnnw sylfaen gref i dimau iau Lloegr ennill cystadlaethau ac fe gryfhaodd perfformiadau prif dimau’r Dynion a’r Menywod yn amlwg mewn prif gystadlaethau yn ogystal.
Mae Dave Reddin wedi cael y profiad o weithio gyda chlwb pêl-droed penodol hefyd. ‘Roedd yn aelod o’r tîm rheoli lwyddodd i brynu a gweddnewid clwb CD Castellon – arweiniodd at eu dyrchafiad o drydydd cynghrair Sbaen i’r ail adran.
Yn ddiweddar mae Reddin wedi dychwelyd i faes athletau wrth iddo ddatblygu strategaethau ar gyfer sircrhau llwyddiant yn y dyfodol i athletwyr Olympaidd Prydain.
Bydd Dave Reddin yn ymuno’n ffurfiol gydag Undeb Rygbi Cymru ar Fedi’r 1af – ond bydd yn gwneud rhywfaint o waith ar ran yr Undeb cyn hynny hefyd.
Bydd profiad helaeth Dave Reddin yn allweddol yn y broses o benodi Prif Hyfforddwr newydd i dîm rygbi dynion Cymru.
Un o’i gyfrifoldebau eraill fydd datblygu a gweithredu cynlluniau a strwythurau fydd yn gwireddu dyheadau a gweledigaethau strategaeth ‘Cymru’n Un’.
Bydd ganddo gyfrifoldeb am lwybrau datblygu y dynion a’r menywod a bydd yn cyd-weithio’n agos gyda’r clybiau proffesiynol er mwyn sicrhau perfformiadau o’r radd flaenaf – fydd yn arwain at lwyddiannau cyson a chynaliadwy i rygbi Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Mae’n newyddion gwych bod Dave am ymuno gyda ni ar yr amser cyffrous hwn yn hanes rygbi Cymru.
“Mae ei brofiad a’i allu ym maes arbenigol chwaraeon elît heb ei ail ac ‘rwy’n gwybod yn iawn y bydd yr holl gamp yng Nghymru’n elwa o’i benodiad.
“Fe ystyrion ni ystod eang o ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon – a hoffwn ddiolch i bob person ddangosodd ddiddordeb ynddi. ‘Rwyf hefyd yn ddiolchgar am gyngor a barn gwerthfawr unigolion trwy gydol y broses benodi.
“Heb eithriad, mae pawb wedi canmol gwaith a gweledigaeth Dave Reddin ac ‘rydym yn gwybod ein bod wedi gwneud dipyn o gamp wrth ei berswadio i ymuno gyda ni.”
Undeb Rygbi Cymru oedd yr Undeb gyntaf i greu swydd Cyfarwyddwr Rygbi i bob pwrpas pan benodwyd Ray Williams ym 1967. Mae enw a chyfrifoldebau y swydd honno wedi amrwywio rhywfaint dros y blynyddoedd – ond Dave Reddin fydd y pedwerydd ar ddeg i ymgymryd â’r gwaith allweddol hwn ar ran Undeb Rygbi Cymru.
Dywedodd Dave Reddin;” ‘Rwyf wrth fy modd fy mod yn ymuno â rygbi Cymru ar gyfnod mor allweddol.
“Mae’n fraint cael fy mhenodi i un o swyddi pwysicaf y byd rygbi a hynny mewn gwlad sydd â hanes mor gyfoethog ac angerddol yng nghyd-destun y gamp.
“Wrth gwrs bod heriau sylweddol o’n blaenau ond ‘rwy’n cael fy ysbrydoli gan weledigaeth a strategaeth Abi a’i thîm.
“Fy nyletswydd cyntaf fydd canolbwyntio ar benodi Prif Hyfforddwr newydd tîm y Dynion gan hefyd drwytho fy hun cyn gynted ag sy’n bosib yn niwylliant y gamp yma yng Nghymru. Bydd hynny’n fy ngalluogi i wneud y newidiadau cadarnhaol sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.”