Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn wedi enwi ei dîm i wynebu’r Eidal ym Mhumed Rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 yn y Stadio Sergio Lanfranchi, Parma, ddydd Sul Ebrill 27ain. (12.30pm, Amser lleol).
Trefnwyd y gêm yn wreiddiol ar gyfer ddydd Sadwrn y 26ain ond o ganlyniad i angladd y Pab Francis ddydd Sadwrn, penderfynwyd ail-drefnu’r ornest ar y dydd Sul fel arwydd o barch.
Mae Sean Lynn wedi gwneud dau newid i’r tîm gollodd yn erbyn Iwerddon yn Rodney Parade ddydd Sul diwethaf ac un newid o ran safle hefyd.
Hannah Jones yw’r capten unwaith eto a bydd Courtney Keight yn cadw cwmni iddi yng nghanol y cae unwaith yn rhagor.
Wedi iddi gael ei galw i ddechrau ar yr eiliad olaf yn erbyn Iwerddon, mae Lleucu George yn cael cyfle arall i lywio’r chwarae o safle’r maswr – gyda’r îs-gapten Keira Bevan yn bartner iddi’n fewnwr.
Mae Lynn hefyd wedi cadw’r ffydd gyda’r tri ôl wrth i’r cefnwr Jasmine Joyce a’r asgellwyr Lisa Neumann a Carys Cox ddechrau unwaith eto.
Mae’r prop profiadol Donna Rose yn dechrau ei gêm gyntaf o’r Bencampwriaeth eleni. Y bachwr Kelsey Jones a’r prop Gwenllian Pyrs yw’r ddwy arall yn y rheng flaen.
Daw’r clo Gwen Crabb yn ôl i mewn i’r pymtheg cychwynol i bartneru Abbie Fleming yn yr ail reng – sy’n golygu bod Georgia Evans yn symud yn ôl i safle’r wythwr. Bethan Lewis a Kate Williams sydd wedi eu dewis yn flaen-asgellwyr unwaith yn rhagor.
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Menywod Cymru: “Ry’n ni wedi cael nifer o sgyrsiau agored yr wythnos hon am yr hyn ‘ry’n ni eisiau ei gyflawni yng ngêm olaf y Bencampwriaeth – a’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan chwaraewyr a staff er mwyn gwireddu hynny.
“Ry’n ni eisoes wedi dangos yr arddull ‘ry’n ni’n dymuno ei chwarae ac ‘ry’n ni wedi gwella nifer o agweddau’n gêm yn ystod y gystadleuaeth hefyd – ond mae’n rhaid i ni wella ymhellach a gwneud pethau da hynny’n fwy cyson hefyd.
“Ry’n ni’n creu cyfleoedd da – ond mae’n rhaid i ni fod yn fwy clinigol wrth drosi’r pwysau ‘ry’n ni’n ei greu i mewn i bwyntiau.
“Mae’n perfformiadau wedi bod yn well na mae’r canlyniadau moel yn eu hawgrymu – ond mae’n rhaid i ni ddysgu gwersi a gwella’n perfformiadau ar y maes chwarae.
“Mae’r chwaraewyr wedi dangos bod ganddyn nhw’r gallu i wneud hynny – ond mae angen i ni weithio’n galetach fyth – fel unigolion ac fel tîm.
“Fe berfformiodd Yr Eidal yn dda’n erbyn Ffrainc yr wythnos ddiwethaf ac fe fyddan nhw wedi cymryd cryn hyder o hynny. Ond ‘ry’n ni’n trin ddydd Sul fel gêm gwpan ac ‘ry’n ni’n canolbwyntio ar ein perfformiad ni fel tîm.
“Mae pob aelod o’r garfan yn hollol ymwybodol o bwysigrwydd y gêm ddydd Sul.”
Cymru (v Yr Eidal)
Jasmine Joyce (Bryste), Lisa Neumann (Harlequins), Hannah Jones (capten, Hartpury/Caerloyw), Courtney Keight (Bryste), Carys Cox (Ealing), Lleucu George (Hartpury/Caerloyw), Keira Bevan (îs-gapten, Bryste); Gwenllian Pyrs (Sale), Kelsey Jones (Hartpury/Caerloyw), Donna Rose (Saraseniaid), Abbie Fleming (Harlequins), Gwen Crabb (Hartpury/Caerloyw), Kate Williams (Hartpury/Caerloyw), Bethan Lewis (Hartpury/Caerloyw), Georgia Evans (Saraseniaid)
Eilyddion: Carys Phillips (Harlequins), Maisie Davies (Gwalia Lightning), Jenni Scoble (Gwalia Lightning), Natalia John (Brython Thunder), Alex Callender (îs-gapten, Harlequins), Sian Jones (Gwalia Lightning), Hannah Bluck (Brython Thunder), Catherine Richards (Gwalia Lightning)