News

Dan Lydiate yn cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi proffesiynol

Dan Lydiate yn chwarae dros y Dreigiau

Mae Dan Lydiate wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi proffesiynol ddiwedd y tymor.

Gwnaeth Lydiate ei ymddangosiad cyntaf bron i ddau ddegawd yn ôl yn ystod tymor 2006/07 a’r tymor hwn fe wnaeth ei ganfed ymddangosiad dros y Dreigiau yn ystod ei ail gyfnod gyda’r clwb.

Mae’r blaen-asgellwr cydnerth, sydd bellach yn 37 oed, yn enwog am ei daclo grymus a dinistriol. Mae wedi cael gyrfa arbennig hyd yma sydd wedi ei weld yn cynrychioli ei wlad ar 72 achlysur ac fe chwaraeodd dros y Llewod mewn tair gêm brawf ar y daith i Awstralia yn 2013.

Dechreuodd ei daith rygbi gyda chlybiau Rhaeadr a Phont-y-pŵl Unedig ac fe gynrychiolodd y Gweilch 90 o weithiau cyn symud i Ffrainc i chwarae dros Racing 92.

Yr wythnos ddiwethaf camodd Lydiate o’r fainc i faes Stadiwm Principality am y tro diwethaf wrth iddo gynrychioli’r Dreigiau’n erbyn y Scarlets ar Ddydd y Farn. Bydd yn chwarae un gêm broffesiynol olaf ar dir Cymru pan fydd y Dreigiau’n teithio i Abertawe i wynebu’r Gweilch yfory.

Mae Dan Lydiate wedi chwarae dros Gymru mewn tair o gystadlaethau Cwpan y Byd, mae wedi ennill y Chwe Gwlad ddwywaith ac ef gafodd ei enwi’r Chwaraewr y Bencampwriaeth yn 2012 pan enillodd y Cymry’r Gamp Lawn.

Y tymor hwn, mae Dan Lydiate wedi bod yn hyfforddi’r Dreigiau yn ardal y dacl a bydd yn parhau â’r dyletswyddau hynny yn nhymor 2025/26.

Dywedodd Prif Hyfforddwr y Dreigiau Filo Tiatia:” Mae gennyf lawer iawn o barch i Dan. Mae’n gweithio’n galed drwy’r amser ac yn gwneud hynny mewn modd hynod ddiymhongar ac urddasol.

“Mae wedi bod yn chwaraewr amlwg dros Gymru a’r Llewod ar y lefel uchaf ac mae’r modd y mae wedi ymateb i’w anaf difrifol yn gynharach yn ei yrfa’n adrodd cyfrolau am ei gymeriad.”

Related Topics