News

Caerdydd a’r Scarlets yn ennill â phwynt bonws ar Ddydd y Farn

Rygbi Caerdydd yn codi Tarian Cymru.

Fe gadwodd Caerdydd a’r Scarlets eu gobeithion o gyrraedd gemau ail gyfle y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn wirioneddol fyw yn dilyn eu buddugoliaethau ar Ddydd y Farn.

Yn yr ornest gyntaf o’r prynhawn yn Stadiwm Principality – llwyddodd Caerdydd i guro’r Gweilch o 36-19 gan sicrhau ond eu hail fuddugoliaeth yn erbyn gwŷr y gorllewin yn eu 10 cyfarfyddiad diwethaf.

Cafodd Crysau Cochion Caerdydd ddechrau heriol i’r gêm wrth i Teddy Williams gael ei ddanfon i’r cell cosb wedi 5 munud yn unig yn dilyn tacl uchel ar Dan Edwards.

Tra bo clo Cymru’n eistedd ar yr ystlys – llwyddodd y Gweilch i sgorio 7 o bwyntiau wedi i Keiran Williams fanteisio ar fylchiad Jac Morgan – wnaeth gwaith Dan Edwards o drosi’n hawdd o’r herwydd.

Wedi hynny, y Prifddinasyddion reolodd y cyfnod cyntaf ac wrth i Williams baratoi i ddychwelyd i’r maes ‘roedd Caerdydd yn gyfartal wedi i’w glwb wrthod cynnig hawdd am driphwynt.

Hyrddiodd Corey Domachowski ei gorff sylweddol tuag at y llinell gais cyn i Alex Mann gwblhau’r gwaith. Yn dilyn trosiad Callum Sheedy, ‘roedd hi’n 7-7.

Wrth i chwarter agoriadol yr ornest ddod i ben, fe ledodd bechgyn Matt Sherratt y bêl yn fentrus a chelfydd – roddodd rwydd hynt i Gabe Hamer-Webb roi Caerdydd ar y blaen am y tro cyntaf wrth iddo dirio’r cyntaf o’i dri chais yn y gornel.

Gabel Hamer-Webb sgoriodd yr hat-tric cyntaf yn Judgement Day.

Gyda 10 munud o’r hanner cyntaf ar ôl – fe sgoriodd Hamer-Webb am yr eildro. Wedi i’r clo Ben Donnell fylchu’n effeithiol, fe gurodd yr asgellwr dri o amddiffynwyr y Gweilch cyn ymestyn i dirio trydydd cais ei dîm o’r cyfnod cyntaf – ar eu trydydd ymweliad yn unig â dwy ar hugain gwŷr y gorllewin.

Fe allwch ddyfalu beth ddigwyddodd ar bedwerydd ymweliad Caerdydd â chysgod pyst y Gweilch – gan i gic letraws gywir Ben Thomas lanio yng nghôl Alex Mann. Ail gais y blaen-asgellwr a phwynt bonws cyfnod cyntaf i’r Crysau Cochion.

Gan mai dim ond un o bedwar cynnig Sheedy at y pyst oedd yn llwyddiannus yn ystod yr hanner cyntaf – dim ond 15 pwynt o fantais oedd ganddyn nhw wrth droi – ond yn dilyn cerdyn melyn Morgan Morse am dacl hwyr ym munud olaf y deugain munud agoriadol – ‘roedd tasg y Gweilch o daro’n ôl wedi troi yn anoddach fyth.

10 munud wedi troi – tro Alex Mann oedd hi i dreulio 10 munud yn y cell callio – gan iddo daclo Reuben Morgan Williams yn anghyfreithlon – a munud cyn i flaen asgellwr Caerdydd ddychwelyd i’r cae – fe groesodd yr eilydd o glo Will Spencer am ail gais y Gweilch – gan gynnig gobaith i dîm Mark Jones gydag 20 munud yn weddill.

Cafwyd diweddglo cyffrous i’r ornest wrth i Harri Millard gael ei ddanfon i’r ystlys am geisio rhyng-gipio’n anghyfreithlon – ac o’r gic gosb ddilynnodd, twriodd Kieran Hardy dros y gwyngalch am drydydd cais y Gweilch.

Ond tîm y Brifddinas reolodd bum munud olaf y chwarae – ac fe sgorion nhw ddau gais hwyr o’r herwydd.

Penderfynodd y dyfarnwr Ben Connor roi cais cosb i Gaerdydd wrth i’r Gweilch geisio atal sgarmes symudol – ac yna gyda symudiad olaf yr ornest – hawliodd Gabe Hamer-Webb ei drydydd cais o’r prynhawn yn Stadiwm Principality.

Bydd Caerdydd yn croesawu Munster i Barc yr Arfau nos Wener wrth i’w gobeithion o orffen yn yr wyth uchaf gryfhau – tra bo canlyniad heddiw’n ei gwneud hi’n annhebygol y bydd y Gweilch yn cymryd rhan yn y gemau ail-gyfle.

Canlyniad: Caerdydd 36 Gweilch 19

Ar ddegfed achlysur Dydd y Farn cafodd gobeithion y Scarlets o gyrraedd yr wyth olaf hwb sylweddol wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth o 31-23 yn erbyn y Dreigiau a phwynt bonws hwyr yn y broses hefyd.

Hon oedd 7fed buddugoliaeth y Scarlets dros Wŷr Gwent yn eu 9 cyfarfyddiad ar Ddydd y Farn.

Er i’r Dreigiau gystadlu am gyfnodau helaeth o’r ornest heddiw – eu buddugoliaeth dros y Gweilch yng ngêm agoriadol eu hymgyrch yw eu  hunig lwyddiant o hyd y tymor hwn.

Er i Seren y Gêm, Sam Lousi dirio wedi 5 munud o chwarae – fe benderfynodd Aimee Barrett Theron o Dde Affrica ei fod yn camsefyll wrth gasglu’r bêl ac felly fe gafodd y Dreigiau ddihangfa gynnar.

Gwta ddau funud wedi hynny fe wnaeth bechgyn Filo Tiatia bethau’n anodd iddyn nhw eu hunain wrth i’r prop Dylan Kelleher-Griffiths droseddu ar waelod y sgarmes – olygodd bod ei dîm ddyn yn brin am 10 munud.

Llwyddodd y Dreigiau i warchod eu llinell gais tan i Kelleher-Griffiths ddychwelyd i’r maes – ond eiliadau’n unig wedi iddo ail-ymuno â’r chwarae – prop y Scarlets Henry Thomas agorodd y sgorio yn dilyn cyfnod o feddiant effeithiol gan fechgyn y gorllewin.

Gyda chwarter awr ar ôl o’r cyfnod cyntaf – fe fentrodd y Dreigiau i ddwy ar hugain eu gwrthwynebwyr am y tro cyntaf – ac yn dilyn pas hyfryd Angus O’Brien – fe redodd Jared Rosser yn glir at y llinell gais i sgorio’i gais cyntaf o’r tymor yn y cynghrair.

Mae Jared Rosser yn cyrraedd sgorio i’r Dreigiau.

Er i O’Brien fethu gyda’r trosiad, ‘roedd ei dîm ar y blaen wrth droi gan i’w gic gosb ym munud olaf yr hanner cyntaf roi mantais o bwynt i Wŷr Gwent.

Fe chwaraeodd Rhodri Williams a Scott Williams dros y Scarlets yn erbyn Dreigiau Casnewydd Gwent ar achlysur cyntaf Dydd y Farn yn ôl yn 2013 – ond eu tîm presennol ddechreuodd yr ail gyfnod ar garlam.

Wedi llai na 2 funud o’r ail hanner, yn dilyn cyfnod hir a heriol gydag anafiadau, fe sgoriodd Ashton Hewitt ei gais cyntaf o’r tymor – a thri munud wedi hynny – hawliodd Rosser ei ail sgôr o’r prynhawn – a’i ail gais o’r tymor i roi 13 pwynt o fantais i’r Dreigiau.

Gyda hanner awr yn weddill fe efelychodd Alec Hepburn gamp ei gyd-brop Henry Thomas wrth iddo wasgu ei ffordd at y llinell gais a phedwar myunud yn ddiweddarach fe ddawnsiodd y blaen-asgellwr Vaea Fifita heibio i Hewitt i dirio trydydd cais y Scarlets o’r ornest.

Trosodd Ioan Lloyd y ddau gais hwnnw – i roi ei dîm ar y blaen o bwynt – ond dim ond am dri munud y parodd eu blaenoriaeth hyd nes i O’Brien hollti’r pyst gyda chic gosb rwydd i roi’r Dreigiau ar y blaen am yr eildro.

Mae Blair Murray yn croesi am y cais hanfodol i’r Scarlets

Daeth eiliad mwyaf arwyddocaol yr ornest gyda 9 munud ar ôl wrth i Blair Murray fanteisio ar ansicrwydd yn amddiffyn tîm Aneurin Owen – i ad-ennill y fantais i’r Scarlets a hawlio pwynt bonws arbennig o werthfawr yn y broses.

Ychwanegodd Ioan Lloyd ddeubwynt unwaith yn rhagor cyn llwyddo gyda chic gosb ar yr eiliad olaf hefyd er mwyn cadarnhau buddugoliaeth o 8 pwynt i dîm Dwayne Peel.

Bydd angen perfformiad a chanlyniad a hanner ar y Scarlets y penwythnos nesaf gan mai Leinster fydd yn ymweld â Pharc y Scarlets ddydd Sadwrn cyn i garfan Dwayne Peel deithio i Dde Affrica i wynebu’r Lions a’r Sharks.

Canlyniad: Scarlets 31 Dreigiau 23

Related Topics