Wrth i dîm Menywod Cymru chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf o Bencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025, mae’r îs-gapten yn hyderus bod dyfodol disglair o flaen y garfan.
Er i wrthwynebwyr Cymru’r penwythnos hwn – yr Eidalwyr – fod ar y blaen o 9 pwynt yn erbyn Ffrainc yn Parma’r penwythnos diwethaf – colli fu eu hanes o 34-21 yn y pendraw.
Mae hynny’n golygu mai eu buddugoliaeth o 25-17 yng Nghaeredin yn Nhrydedd Rownd y Bencampwriaeth yw eu hunig lwyddiant o safbwynt canlyniad hyd yn hyn y tymor hwn.
Bydd hi’n union flwyddyn i’r diwrnod ddydd Sul ers i dîm Menywod Cymru ennill eu gêm ddiwethaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a daeth y fuddugoliaeth honno o 22-20 yn erbyn Yr Eidal yn Stadiwm Principality.
Er nad yw ei thîm hi wedi cofnodi buddugoliaeth eu hunain eto’n ystod y Bencampwriaeth eleni, mae’r mewnwr bywiog Keira Bevan yn hyderus am yr her sy’n ei hwynebu hi a’i chyd-chwaraewyr yn Parma ddydd Sul: “Does neb yn y garfan eisiau gorffen ar waelod y tabl – heb sôm am hawlio’r llwy bren.
“Ry’n ni yma’n Yr Eidal yn anelu at fuddugoliaeth a byddwn yn gobeithio y bydd Iwerddon yn curo’r Alban fyddai’n gwneud ffafr fach â ni hefyd.
“Mae’n gemau diweddar yn erbyn yr Eidalwyr wedi bod yn rhai anodd ac eithaf agos ond mae’n rhaid i ni gydnabod bod eu buddugoliaeth yn Yr Alban yn ddatganiad clir am welliant diweddar eu rygbi.
“Yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn Ffrainc, ‘roedd eu sgarmes symudol yn arf effeithiol iawn ac ‘roedd eu tri ôl yn beryglus iawn wrth ymosod.
“Bydd hi’n gêm gorfforol a chyffrous ddydd Sul.
“Ry’n ni’n gwybod yn iawn bod yn rhaid i ni warchod y bêl yn well y penwythnos hyn ac yn enwedig yn erbyn Yr Eidal bydd angen i ni godi safon ein chwarae corfforol hefyd.
“Fe ddysgon ni wers galed yn erbyn Iwerddon ac ‘ry’n ni’n gwybod yn iawn bod yn rhaid i ni fod yn gyflymach ac yn galetach yn ardal y dacl i wneud yn siwr bod gennym feddiant glân – a hynny ar y droed flaen.
“Mae’n holwyr wedi dangos beth y maen nhw’n gallu ei wneud gyda phêl glou – a gwaith y pac a fi yw gwenud ein gorau i sicrhau eu bod nhw’n cael y meddiant y maen nhw’n ei haeddu.
“Dim ond newydd ddechrau gyda ni mae Dan Murphy (Hyfforddwr Amddiffyn) ac fe fydd y broses o ddeall y system newydd yn llwyr yn cymryd ychydig mwy o amser i weithio’ n berffaith – ond ‘ry’n ni’n symud i’r cyfeiriad cywir.
“Mae’n holl garfan yn gwybod nad y’n ni wedi cael perfformiad cyflawn am 80 munud hyd yma’n y Chwe Gwlad eleni – ond ‘ry’n ni’n gwella. Mae gennym y bobl iawn wrth y llyw i’n herio ni a’n harwain ni at gynnydd a gwelliant yn safon ein chwarae.
“Wrth dreulio mwy o amser gyda’n gilydd – fe allwn ni ddangos y gwelliant hwnnw yng Nghwpan y Byd fis Awst.”