News

Beard yn barod am her newydd yn Ffrainc

Adam Bearb, ail reng y Gweilch

Bydd Adam Beard yn gadael y Gweilch ddiwedd y tymor wedi cyfnod o 11 mlynedd.

Mae clo’r Gweilch a’r Llewod wedi penderfynu gadael Cymru er mwyn ‘manteisio ar gyfle newydd dramor’. Mae clwb Montpellier yn Ffrainc eisoes wedi cyhoeddi y byddant yn arwyddo Beard ynghŷd â bachwr Seland Newydd, Ricky Riccitelli.

Cododd Beard drwy rengoedd ieuenctid y Gweilch ac mae bellach wedi ymddangos 139 o weithiau dros ei glwb proffesiynol – heb sôn am ei 58 ymddangosiad dros ei wlad. Fe gynrychiolodd y Llewod hefyd mewn un gêm brawf yn 2021 yn Ne Affrica.

Dywedodd Adam Beard, sydd bellach yn 29 oed: “Dwi wedi caru fy amser gyda’r Gweilch ac felly ‘roedd gwneud y penderfyniad i adael yn anodd iawn. Dwi wedi tyfu lan yn cefnogi’r Gweilch ac mae’r ffaith fy mod wedi datblygu o’r tîm ieuenctid i’r prif dîm yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori am byth.

“Fe gefais lawer o sgyrsiau gyda fy nheulu, fy ffrindiau a fy hyfforddwyr am y penderfyniad hwn – ac er mor anodd yw gadael – nawr yw’r amser iawn i fentro i mewn i her newydd.

“Dwi wedi mwynhau pob eiliad gyda’r Gweilch ac rwy’n ddiolchgar am y modd y mae’r clwb wedi fy natblygu a fy meithrin fel chwaraewr ac fel person hefyd.”

Fe enillodd Adam Beard y Gamp Lawn gyda thîm o dan 20 Cymru yn 2016 – ac yna yn 2019 cipiodd y Gamp Lawn gyda phrif dîm ei wlad. Bu hefyd yn aelod o garfan Cymru enillodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2021 a’r tîm ddaeth yn bedwerydd yng Nghwpan y Byd yn 2019.

Dywedodd Prif Hyfforddwr y Gweilch, Mark Jones: “Mae dylanwad Adam ar y Gweilch wedi bod yn anferthol. Bydd yn gadael bwlch mawr ar ei ôl – o safbwynt ei arbenigedd yn y chwarae gosod, ei ddawn fel chwaraewr a’i allu naturiol fel arweinydd o fri hefyd.

“Mae’n chwaraewr o’r radd flaenaf – ond yn bwysicach na dim – mae’n berson arbennig iawn.”

Mae’r Gweilch eisoes wedi cyhoeddi y bydd clo’r Queensland Reds, Ryan Smith yn ymuno â nhw ar gyfer y tymor nesaf.

Mae Smith, sy’n 6’6” wedi cynrychioli ei glwb 69 o weithiau a bu’n aelod o garfan ymarfer y Wallabies fis Mehefin diwethaf. Mae eisoes wedi cynrychioli tîm ‘A’ Awstralia chwech o weithiau a bydd yn gobeithio herio’r Llewod dros yr haf cyn ymuno gyda’r Gweilch.

Dywedodd Ryan Smith: “Rwy’n hynod o ddiolchgar i bawb yn y Queensland Reds sydd wedi gwenud fy nghyfnod yno mor hapus. Byddaf yn dal i ymroi’n llwyr iddyn nhw ym mhob gêm tan ddiwedd y tymor gan obeithio dod â fy nghyfnod gyda’r clwb i ben ar nodyn uchel – cyn dechrau ar bennod newydd gyffrous yng Nghymru y tymor nesaf.”

Related Topics