Jump to main content
Wales Women autumn series

Courtney Keight (far right)

Cyfle i ddatblygu profiad yng ngharfan ifanc

Bu i Brif Hyfforddwr Merched Cymru Rowland Phillips enwi carfan gref o 35 ar gyfer pum gȇm ei ochr yn Nhachwedd – eu cyfres hydref fwyaf hyd yn hyn. Bydd y Bachwr Carys Phillips yn parhau if od yn gapten y garfan sy’n cynnwys 14 chwaraewr heb eu capio.

Share this page:

Dechreua Cymru’r gyfres gyda their gȇm i ffwrdd – yn erbyn Sbaen, Iwerddon a’r Alban cyn dychwelyd i Gymru am y gȇm gyntaf yn erbyn tîm Merched Crawshay’s a hyfforddir gan Aelod newydd o Gyngor URC Liza Burgess a’r hyfforddwraig fenywaidd broffesiynol gyntaf yng Nghymru – Rachel Taylor.

Chwareir y gȇm honno ar Barc Eugene Cross, Glyn Ebwy ar ddydd Sadwrn 23ain Tachwedd a bydd Taylor yn rhan hefyd o griw hyfforddi’r gwrthwynebwyr wythnos yn ddiweddarach ar gyfer gȇm gyntaf Merched Cymru’n erbyn y Barbariaid yn Stadiwm y Principality [digwyddiad ddau benawd].

DFP – Leaderboard

Dywedodd Phillips, “Nid yw ein ffocws wedi newid. Bu inni gymhwyso a chyrraedd Cwpan y Byd i Rygbi Merched yn 2021 a’n amcan allweddol yw adeiladu carfan o chwaraewyr ifanc gyda phrofiad sylweddol ganddynt. Mae’r gyfres hydref hon yn gyfle enfawr i wneud hynny. Bydd yr holl chwaraewyr yn elwa o’r profiad o deithio i ffwrdd ar gyfer tri chyfarfod anodd yn erbyn Sbaen, Iwerddon a’r Alban – y cyfan yn parhau i geisio cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd. Bydd bod yn rhan o ddau gyfarfod hanesyddol yng Nghymru ddiwedd Tachwedd yn erbyn y Crawhshay’s a’r Barbariaid yn rhywbeth y byddwn i gyd yn edrych ymlaen atynt a mwynhau.

“Bu inni orffen y Chwe Gwlad ar nodyn uchel gyda buddugoliaeth ddramatig tros yr Alban ac yna, ennill yn bleserus gyda pherfformiad da’n erbyn yr Iwerddon. Rydym eisiau adeiladau ar y momentwm hwnnw’r tymor hwn.

“Mae gallu arbennig yn dod trwodd – gwelwyd tystiolaeth o hynny’n y rhaglen ranbarthol eto’r haf hwn a gwobrwyir rhai o’r chwaraewyr hynny gyda lle yn y garfan heddiw. Mae gennym gyfrifoldeb i barhau i ddatblygu y chwaraewyr hynny, gweithredu’u potensial yn llawn a hefyd eu rheoli’n dda. Byddwn yn rhoi profiad o’r amgylchedd rhyngwaladol iddynt gan roi peth amser gȇm iddynt pan fyddent yn barod. Bu i rai tebyg i Lauren Smyth, Manon Johnes, Alex Callender a Gwen Crabb i gyd ennill eu capiau cyntaf yr hydref diwethaf gan fynd ymlaen i ddod yn chwaraewyr allweddol yn y garfan. Mae’r cyfle yna i eraill wneud yr un peth os yr ydynt yn ymdrechu’n galed.

“Rydym yn glir a lle yr ydym angen datblygu er mwyn dod yn gystadleol yn gyson. Gwelir gwell dealltwriaeth yn awr gan chwaraewyr o’r hyn sydd ei angen gan chwaraewr rhyngwladol yn nhermau ffitrwydd, lefelau sgiliau, agwedd a phob dim arall sy’n mynd gyda bod yn chwaraewr rygbi rhyngwladol.

“Nid ydym yn edrych ymhellach na’r gȇm gyntaf. Mae Sbaen yn datblygu’n sylweddol aa byddent yn rhoi her galed inni, yn enwedig are u tir cartref. Edrychwn ymlaen at ymaflyd cyrn gyda gyda’n gwrthwynebwyr Chwe Gwlad traddodiadaol, Iwerddon a’r Alban gyda’r ddwy ochr gyda phwynt i brofi ac rydym eisiau cydweithio gyda chymaint o gefnogwyr cartref ȃ phosibl ar ein taith gan obeithio am i gymaint ȃ phosibl ddod yn rhan o’n gemau cartref yng Nghlyn Ebwy a Stadiwm y Principality.”

Mae hyfforddwyr sgiliau rhyngwladol URC, Geraint Lewis a Chris Horsman, wedi ymuno gyda Rowland Phillips a Gareth Wyatt yng nghylch hyfforddi Merched Cymru a byddent yn rhoi mewnbwn arbenigol drwy holl ymgyrch yr hydref.

Croesawodd Phillips yr ychwanegiad gan gyn flaenwyr rhyngwladol Cymru. “Mae Geraint a Chris yn hyfforddwyr ardderchog. Gyda’u cyfoeth o brofiad yn gweithio gyda chwaraewyr rhyngwladol ifanc, maent yn deall yr angen i addasu steiliau a sgiliau rheolau fel bo angen. Mae’n hwb enfawr i raglen y merched cael dod yn rhan mwy cydlynol gyda strwythur perfformiad URC. Yr wyf i’n gwybod cymaint y bu i mi ei ddysgu o hyfforddi athletwyr benywaidd a dangosodd Chris a Geraint yn barod y byddent yn ychwanegu gwerth i’r rhaglen.”

Carfan Merched Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref:

Blaenwyr: (5 heb eu capio*)
Alex Callender (Sgarlets), Gwen Crabb (Gweilch), Amy Evans (Gweilch), Georgia Evans* (Gleision Caerdydd), Abbie Fleming* (Gleision Caerdydd), Cerys Hale (Gleision Caerdydd), 
Sioned Harries (Sgarlets), Cara Hope (Gweilcj), Jordan Hopkins* (Gleision Caerdydd), Gwenllian Jenkins* (Sgarlets), Natalia John (Gweilch), Manon Johnes (Gleision Caerdydd), Kelsey Jones (Gweilch), Bethan Lewis (Sgarlets), Siwan Lillicrap (Gweilch), Robyn Lock* (Gweilch), Carys Phillips (Gweilch), Gwenllian Pyrs (RGC) 
|

Cefnwyr: (9 heb eu capio*)
Keira Bevan, (Gweilch), Angharad Desmet* (Sgarlets), Alecs Donovan (Gweilch), Lleucu George (Sgarlets), Courtney Keight* (Gweilch), Kerin Lake (Gweilch), Caitlin Lewis* (Sgarlets), Ffion Lewis (Sgarlets), Rebekah O’Loughlin* (Gleision Caerdydd), Kayleigh Powell* (Gweilch), Paige Randall* (Gleision Caerdydd), Catherine Richards* (Gleision Caerdydd), Lauren Smyth (Gweilch), Elinor Snowsill (Gweilch), Niamh Terry* (Gweilch), Megan Webb* (Gleision Caerdydd), Robyn Wilkins (Gleision Caerdydd)

Gemau Merched Cymru Tachwedd 2019:


Sbaen v Merched Cymru, Estadio Nacional Computense, Madrid, Sul 3ydd Tachwedd 12.45 amser lleol
Iwerddon v Merched Cymru, The Bowl, UCD, Dulyn, Sul 10fed Tachwedd 1 y prynhawn
Yr Alban v Merched Cymru, Glasgow, Sul 17eg Tachwedd 3 y prynhawn
Crawshay’s v Merched Cymru, Parc Eugene Cross, Glyn Ebwy Sadwrn 23ain Tachwedd 2.30 y prynhawn
Merched Cymru v Y Barbariaid Sadwrn 30ain Tachwedd, Stadiwm y Principality 11.45 y bore

Mae tocynnau ar werth ar gyfer gȇm dau benawd y Barbariaid drwy wru.wales/tickets

Partners and Suppliers

Principal Partners
Principality
Admiral
Cyfle i ddatblygu profiad yng ngharfan ifanc
Vodafone
Go.Compare
Official Broadcast Partners
S4C
BBC Cymru/Wales
Official Partners
Guinness
Cyfle i ddatblygu profiad yng ngharfan ifanc
Cyfle i ddatblygu profiad yng ngharfan ifanc
Heineken
Cyfle i ddatblygu profiad yng ngharfan ifanc
The Indigo Group
Cyfle i ddatblygu profiad yng ngharfan ifanc
Official Suppliers
Gilbert
Cyfle i ddatblygu profiad yng ngharfan ifanc
Rhino Rugby
Sportseen
Cyfle i ddatblygu profiad yng ngharfan ifanc
Cyfle i ddatblygu profiad yng ngharfan ifanc
Princes Gate
Cyfle i ddatblygu profiad yng ngharfan ifanc
Amber
Opro
Total Energies
Seat Unique
Nocco
Castell Howell
Glamorgan Brewing
Ted Hopkins
Hawes & Curtis
Cyfle i ddatblygu profiad yng ngharfan ifanc